Neidio i'r prif gynnwy

Galw digynsail am ein Hadrannau Achosion Brys ar draws Gogledd Cymru

18.08.22

Ar hyn o bryd mae galw digynsail ar ein Hadrannau Achosion Brys ar draws Gogledd Cymru, sy’n arwain at arosiadau hir sylweddol i gael eu gweld.

Atgoffir y cyhoedd i ddefnyddio gwasanaethau iechyd yn ddoeth ac i ymweld â’r Adran Achosion Brys dim ond os yw’n gwbl angenrheidiol.

Ers dydd Gwener, 12 Awst 2022 rydym wedi gweld dros 2,000 o bobl yn mynychu ein Hadrannau Achosion brys, mae’r nifer uchel o gleifion ynghyd â’r anhawsterau i ryddhau cleifion sy’n feddygol ffit o’r ysbyty yn arwain at brinder sylweddol o welyau ar draws y safleoedd. Mae hyn yn cael effaith ar allu llawdriniaethau wedi’u cynllunio i fynd yn eu blaenau a hefyd amseroedd aros hir am ambiwlans y tu allan i’n Hadrannau Achosion Brys, sy’n golygu nad yw parafeddygon yn gallu ymateb i alwadau brys eraill yn ein cymunedau.

Dywedodd Dr Pete Williams, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys yn Ysbyty Gwynedd: “Fel ysbytai ar draws y wlad, rydym yn parhau i fod yn brysur iawn o ganlyniad i gynnydd mewn derbyniadau yn dilyn tywydd poeth yr wythnos ddiwethaf ac oedi wrth ryddhau cleifion nad oes angen gwely acíwt arnynt mwyach. Disgwyliwn i’n Hadran Achosion Brys aros yn hynod o brysur am rai dyddiau i ddod.

“Mae ein holl gleifion yn cael eu blaenoriaethu yn ôl angen clinigol, os oes gennych chi anaf neu salwch sy’n peryglu bywyd – rydyn ni am eich gweld. Os ydych chi’n teimlo’n sâl ac nad yw’n argyfwng, ceisiwch wasanaethau arall fel Fferyllfa, eich Meddyg Teulu neu Uned Mân Anafiadau.

“Os nad oes gennych chi gyflwr sy’n peryglu bywyd a’ch bod yn mynychu’r Adran Achosion Brys byddwch yn aros am gryn dipyn o amser i gael eich gweld gan mai ein cleifion mwyaf sâl yw ein blaenoriaeth.”

Ein blaenoriaeth bob amser yw sicrhau bod pob claf yn cael ei ryddhau o’r ysbyty ar yr adeg gywir, oherwydd yr heriau presennol mae hyn yn fwyfwy anodd sy’n arwain at gleifion yn profi oedi hir mewn gwelyau ysbyty. Os oes gennych chi berthynas neu anwylyd yn yr ysbyty yr aseswyd ei fod yn ddigon iach i fynd adref, ond sy’n aros i gael ei ryddhau gyda gofal cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch eu helpu i gyrraedd adref yn gynt os byddwch chi a’ch teulu mewn sefyllfa i’w cefnogi gartref. Os yw eich perthynas yn aros am becyn gofal ffurfiol, efallai y gallwch gynnig cymorth a gofal yn y tymor byr. Os teimlwch fod hwn yn opsiwn y gallech ei ystyried, er mwyn hwyluso rhyddhau o’r ysbyty, siaradwch â rheolwr y ward neu’ch gweithiwr cymdeithasol i ymchwilio ymhellach.

Mae treulio cyn lleied o amser yn yr ysbyty yn well i gleifion ac yn golygu y gellir rhyddhau gwelyau’r GIG i eraill ag anghenion gofal brys. Mae cefnogi cleifion hŷn i gyrraedd adref o’r ysbyty yn effeithlon yn rhan bwysig o’u hadferiad ac mae hefyd yn eu hamddiffyn rhag canlyniadau negyddol yn ymwneud â derbyniad i’r ysbyty, megis haint a gafwyd yn yr ysbyty, cwympiadau a cholli annibyniaeth.

Gall pobl helpu staff ysbytai drwy:

• Cefnogi cleifion a pherthnasau sydd wedi cwblhau eu triniaeth ac sy’n barod i adael yr ysbyty i ddychwelyd adref. Bydd hyn yn sicrhau bod gwelyau ar gael i gefnogi cleifion sydd angen ein gofal.

• Mae nifer o opsiynau a gwasanaethau lleol ar draws Gogledd Cymru i’ch helpu i gael y cyngor a/neu’r driniaeth gywir – ewch i’n gwefan yn y lle cyntaf os nad yw’ch symptomau’n achos brys