Mae Sharon Manning, a arferai fod yn nyrs canser arbenigol Macmillan yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru, yn dod yn MBE am wasanaethau i ofal cleifion canser.
Dechreuodd gyrfa ryfeddol Sharon fel glanhawraig yn Ysbyty Glan Clwyd ym 1989. Sylweddolodd ei bod eisiau gofalu am gleifion a daeth yn nyrs gynorthwyol, cyn astudio ar gyfer ei gradd nyrsio - er iddi adael yr ysgol yn 15 oed heb unrhyw gymwysterau.
Ar ôl cael 2:1 mewn nyrsio yn 47 oed, daeth yn nyrs staff yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru. Yna cwblhaodd secondiad 10 mis fel nyrs canser yr ysgyfaint, cyn dychwelyd i'r Ganolfan.
Yn 2011, daeth Sharon yn Nyrs Arbenigol Canser Macmillan mewn oncoleg gynaecolegol ac aeth ati i feddwl am ffyrdd o wella gofal cleifion.
Un cyflawniad nodedig oedd defnyddio “Rocket Drain”, a oedd yn caniatáu i gleifion a oedd yn gorfod draenio hylif o'r abdomen dro ar ôl tro i drin eu hunain gartref.
Yn ogystal â gwella ansawdd bywyd i gleifion, roedd yn cwtogi ar yr oriau teithio ar gyfer mynychu apwyntiadau cleifion allanol bob wythnos.
Mabwysiadwyd y drefn ar draws Gogledd Cymru ac enillodd Sharon Wobr Arloesedd a Chymrodoriaeth Macmillan, am arloesi gyda'r defnydd o'r Gwasanaeth Rocket Drain.
Cafodd Sharon wahoddiad hefyd i Downing Street y llynedd, fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y GIG yn 75 oed, i gydnabod ei chyflawniadau anhygoel fel nyrs.
Dywedodd: “Mae'n fraint a hanner, rwy'n teimlo'n falch iawn ond yn wylaidd o fod wedi derbyn y wobr hon. Rwy'n ei derbyn ar ran yr holl ferched roeddwn i'n gofalu amdanyn nhw a'r teuluoedd roeddwn i'n eu cefnogi, a oedd yn arwyr go iawn.
“Rwy’n gobeithio y bydd y wobr hon yn rhoi cyfeiriad ac ysgogiad i’r genhedlaeth iau o nyrsys lwyddo yn y blynyddoedd i ddod yn eu gyrfaoedd dewisol.”