Neidio i'r prif gynnwy

Mandy Giddins, BEM

Mae Mandy Giddins, Nyrs Wroleg Arbenigol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau gwirfoddol ac elusennol i bobl ifanc â chanser.

Sefydlodd Mandy elusen Giddo’s Gift er cof am ei diweddar fab Jordan a gollodd ei frwydr gydag Ewings Sarcoma yn 2017, ac i helpu pobl ifanc eraill - a’u teuluoedd - sy’n mynd trwy frwydrau tebyg.

Dywedodd Mandy: “Rwy’n falch iawn, iawn ac mae’n ffordd wych o gadw enw a chof Jordan yn fyw. ​ Roedd yn haeddu medal ei hun. Nid dim ond i mi y mae'r fedal hon, ond i'r tîm cyfan yn Giddo's Gift. Diolch o galon i'r rhai ohonoch sydd wedi bod yn anfon negeseuon yn fy llongyfarch, maen nhw'n wych!"

Mae’r elusen yn darparu grantiau ac anrhegion i bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc sy’n dioddef o ganser yng Nghymru a Gogledd Orllewin Lloegr.

Mae wedi codi mwy na £400,000, gan roi mwy na £50,000 i astudiaethau ymchwil ar ganser ymhlith plant. ​