Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriad Gwella Rhestrau

6 Tachwedd 2019

Mae BIPBC wedi derbyn llythyr ar y cyd gan Unison, yr RCN ac Unite yn gofyn i ni beidio symud ymlaen â’r newidiadau arfaethedig i rota nyrsys hyd nes bod trafodaethau pellach wedi cael eu cynnal.

Dywedodd Gary Doherty, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Rydym yn croesawu cyfathrebu ar y cyd gan Unison, RCN ac Unite. Rydym wedi ymrwymo’n llawn i gydweithio gyda’n partneriaid Undeb Llafur. Wrth i ni ganolbwyntio ar ein gwaith partneriaeth a sut i symud ymlaen gyda’n gilydd, ni fyddwn yn datblygu’r newidiadau arfaethedig. Gallwn hefyd gadarnhau bydd yr agenda ar gyfer Cyfarfod Arbennig Partneriaeth Lleol, sydd i’w gynnal ddydd Gwener 8 Tachwedd yn ymwneud yn benodol â’r mater hwn.”

 

30 Hydref 2019

Bwriad y newidiadau hyn i rotas nyrsio yw amddiffyn iechyd a diogelwch staff nyrsio a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol. Bydd sicrhau bod gennym niferoedd digonol o staff cymwys i gyd-fynd â’r galwadau ar ein gwasanaethau yn helpu i wella diogelwch a chysondeb gofal ymhellach.

Ar hyn o bryd, mae 100 o batrymau shifft gwahanol ar waith ledled y Bwrdd Iechyd ac amrywiaeth mewn cyfnodau egwyl di-dâl o ddim egwyl di-dâl i awr a 15 munud.

Bydd y newidiadau hyn yn safoni patrymau shifft, hyd cyfnodau trosglwyddo a hyd cyfnodau egwyl ar draws pob uwch adran. Yn ogystal â chyflwyno system gyson ar draws y Bwrdd Iechyd am y tro cyntaf, rydym yn amcangyfrif y byddwn yn lleihau ein dibyniaeth ar staff asiantaeth nyrsio ac yn darparu arbedion o £527,000.

Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym o fis Ionawr 2020 a bydd y cyfnod rota yn cael ei ehangu i 12 wythnos o’r 4 wythnos cyfredol er mwyn gallu cynllunio ymlaen ac i ehangu’r cyfnod y mae’n rhaid gweithio oriau contract.

Ymateb i’r Ddogfen Ymgynghori ar gyfer Newidiadau i’r Rhestrau Nyrsio

Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb

Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad – Cynigion i Newid Shifftiau Nyrsio

Neges BIPBC i Staff