Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Maelor Wrecsam (Achos Busnes Rhaglen Barhad)

Mae Ysbyty Maelor Wrecsam yn cyflawni rôl bwysig o ran darparu gwasanaethau ar gyfer pobl o bob rhan o Ogledd Cymru a thu hwnt. Rydym yn gweithio ar hyn o bryd ar ddewisiadau hirdymor i ddatblygu safle Ysbyty Maelor Wrecsam yn y dyfodol, yn ogystal â darparu gwasanaethau cychwynnol a chymunedol yn yr ardal. Er mwyn caniatáu i'r datblygu yma ddigwydd yn y dyfodol ac i barhau i gynnig gwasanaeth diogel a chynaladwy yn y cyfamser, mae nifer o welliannau allweddol wedi'u canfod yn yr ysbyty y mae'r achos busnes hwn yn awyddus i fynd i'r afael â nhw.

Ar ddechrau Medi 2019, cytunodd aelodau'r Bwrdd yn unfrydol i gymeradwyo'r achos busnes gwerth £54m i'w gyflwyno gerbron Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith ar isadeiledd y safle. Rhan gyntaf yr ymrwymiad i wella Ysbyty Maelor Wrecsam yw hon a bydd y gwaith yn mynd i'r afael â rhai o'r risgiau pennaf a mwyaf dybryd sydd i'w cael ar y safle. Mae'r rhain yn cynnwys gwneud gwelliannau i gyflenwadau trydan, dŵr, gwres a nwy meddygol, lle gwelwyd tarfu sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf gan fod rhai o'r adeiladau'n dyddio.

Mae trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar y gweill erbyn hyn.

Ysbyty Maelor Wrecsam - Adroddiad Achos Busnes Rhaglen Barhad, Medi 2019