Neidio i'r prif gynnwy

Eich Dyfodol Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru ac rydym yn gwahodd arweinwyr tosturiol sydd â gweledigaeth, fel chi, i ymuno â’n tîm deinamig. Mae gennym ystod o swyddi gweithredol a swyddi uwch cyffrous a fydd nid yn unig yn eich herio a’ch grymuso ond hefyd yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol y Bwrdd Iechyd a lles ein cymunedau.

Croeso gan Carol Shillabeer, Prif Swyddog Gweithredol

Diolch am ystyried y rôl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

Rydym yn awyddus i gryfhau ein tîm gweithredol gydag arweinydd profiadol ac ysbrydolgar sydd â hanes llwyddiannus profedig o arweinyddiaeth weithredol a phroffesiynol ar lefel uchel iawn. Mae hwn yn benodiad hollbwysig, sy'n hanfodol er mwyn sicrhau bod gennym y cymysgedd cywir o arbenigedd ac arweinyddiaeth i gynorthwyo gyda'n taith wella.

Rydym yn benderfynol o ddefnyddio ein statws Mesurau Arbennig fel catalydd dros newid ystyrlon a chyson. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle prin ac arwyddocaol i arwain trawsnewid ar draws y system gyfan ac i gyflawni gwelliannau parhaus o ran gofal, ansawdd a chanlyniadau. 

Rydym yn chwilio am arweinydd sydd â hygrededd proffesiynol cadarn ac ymagwedd drugarog wedi'i harwain gan werthoedd. Rhywun sy'n agored, yn onest ac yn barod i gydweithio, sy'n gallu meddwl yn ochrol i fynd i'r afael â heriau cymhleth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad ac asiantaethau partner, gan gyfrannu at dîm arwain sy'n cefnogi, sy'n galluogi ac sy'n hynod effeithlon.

Rydym yn ymrwymedig i ymgorffori diwylliant dysgu trugarog, wedi'i danategu gan wella'n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd ag angerdd dros ansawdd, gwella parhaus a datblygu eraill.

Mae ein partneriaid wedi cofleidio gwaith system integredig, ac rydym yn elwa ar gydberthnasau cryf a chydweithredol ar draws ein system iechyd integredig. Yn ogystal, mae ein partneriaid addysg ar draws Gogledd Cymru yn rhan annatod o'n huchelgais i ddod yn Gyflogwr o Ddewis ac yn arweinydd ym maes addysg a datblygu'r gweithlu. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys mentrau megis Ysgol Feddygol a Gwyddorau Iechyd rhyng-broffesiynol mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor.

Mae Gogledd Cymru yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo, gan gynnig cyfuniad unigryw o harddwch naturiol, cymunedau ffyniannus a chyfleoedd ar gyfer difyrrwch ac anturiaethau. Rydym yn falch o'r hyn rydym yn ei adeiladu yma a'r effaith bositif y bydd yn ei chael ar iechyd a lles ein poblogaeth.

Byddwn yn croesawu'r cyfle i drafod y rôl bwysig hon ymhellach a diolch yn fawr unwaith eto am ystyried y penodiad hwn.

 

Ein Gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd a'n hymddygiadau'n diffinio sut rydym yn mynd i'r afael â'n gwaith a sut rydym yn trin y naill a'r llall. Mae'r fframwaith hwn yn berthnasol i'r holl staff yn BIPBC, ein cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, ymwelwyr a phartneriaid. Trwy ddangos yr ymddygiadau hyn, gallwn lywio ein diwylliant er mwyn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth a'n hamcanion. Bydd hyn yn ei dro yn cael effaith bositif ar brofiad a chanlyniadau i'n cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, lles staff a gwelliant parhaus.

 

 

Swyddi Gwag yn y Bwrdd Iechyd