Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Cymunedol Inffyrmari Dinbych

Cyfeiriad: Ffordd Rhuthun, Dinbych, LL16 3ES
Rhif Ffôn: 03000 850 019

Gwasanaethau Ysbyty

  • Ffisiotherapi cleifion mewnol ac allanol
  • Therapi Galwedigaethol
  • Gwasanaethau Awdioleg - Mae angen apwyntiad ar gyfer y clinig Awdioleg hwn. Cysylltwch â’ch Adran Awdioleg leol i drefnu apwyntiad. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein Gwasanaethau Awdioleg.
  • Uned Macmillan
  • Uned Dydd
  • Gwasanaeth Trin Traed
  • Bydwragedd
  • Nyrsys Ardal
  • Ymwelwyr Iechyd
  • Cynghorydd Iechyd Pobl Ifanc
  • Anableddau Dysgu

Uned Mân Anafiadau (MIU)

Mae gwybodaeth am yr Uned Mân Anafiadau ar gael yma.

Cyfleusterau

Mae troli wythnosol ar gael gyda chefnogaeth Cyfeillion yr Ysbyty ac mae gwasanaeth bar te yn ystod Clinigau Cleifion Allanol

Ymweliadau ag Ysbytai

Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma. 

Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.

Sut i gyrraedd

Ar y ffyrdd: Gadewch yr A55 ar Gyffordd 27 ac anelwch am Lanelwy. Dilynwch yr A525 drwy Lanelwy am oddeutu 5 milltir tuag at Ddinbych. Mae arwyddion yn eich cyfeirio at yr ysbyty. Mae mannau parcio am ddim yn ogystal â pharcio anabl ar gael.

Ar y trên: Dim gwasanaeth trên ar gael.

Ar y bws: Gwasanaeth bws rheolaidd bob dydd.  Am fwy o wybodaeth, ewch i Traveline Cymru.