Gall damwain, salwch a heneiddio droi gweithgareddau bob dydd yn heriau sy’n gostwng annibyniaeth a thanseilio ein synnwyr o hunaniaeth.
Mae Therapyddion Galwedigaethol yn cydnabod bod gallu gwneud y gweithgareddau bob dydd hyn yn hanfodol i iechyd a lles.
Mae Therapyddion Galwedigaethol (ThG):
Mae galwedigaeth yn cynnwys bob gweithgaredd bob dydd megis gwneud diod poeth, defnyddio cludiant cyhoeddus a chymdeithasu. Mae ein gweithgareddau bob dydd yn rhoi synnwyr o hunaniaeth a phwrpas i ni. Mae ThG yn datblygu strategaethau ymarferol ar gyfer pobl sy’n wynebu heriau fel y gallent barhau i ffynnu yn eu bywydau. Maen nhw’n gweithio mewn nifer o wahanol rolau a lleoliadau megis ysbytai, ysgolion a chartrefi’r cleientiaid.
Mae ThG yn defnyddio ystod o strategaethau ac offer arbenigol i alluogi pobl i gyflawni eu nodau. Gall hyn amrywio o helpu rhywun i adennill eu hyder i siopa neu goginio heb gymorth ar gyfer y teulu neu ddychwelyd i weithio ar ôl salwch corfforol neu feddyliol.
Maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth i greu datrysiadau ymarferol i’r problemau sy’n effeithio eu hannibyniaeth.