Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Coffa

Mae Pwyllgor Rhoi Organau a Meinwe Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnal gwasanaethau'n rheolaidd i anrhydeddu'r rhai sy'n rhoi organau a meinwe, yn ogystal â'r rhai sy'n eu derbyn a'u teuluoedd.

Caiff y gwasanaethau hyn o Ddiolchgarwch a Chofio eu nodi wrth oleuo canhwyllau ac yna, yn dilyn  hynny  bydd  cyfle  i  gyfarfod  â  meddygon  a  nyrsys  arbenigol  o  bob  rhan  o  ogledd  Cymru.

Os hoffech chi ymuno â ni i gofio a diolch am y rhoddion sydd nid yn unig wedi achub bywydau, ond wedi gwella ansawdd bywyd cymaint o rai eraill, anfonwch e-bost at: NorthWalesSNODTeam@nhsbt.nhs.uk