Neidio i'r prif gynnwy

Cofio eich babi

Creu atgofion gwerthfawr

Rydym yn gweithio gyda llawer o elusennau cefnogol sy’n darparu cyfleoedd creu atgofion i chi a’ch teulu. 

Mae SANDS Trees of Love yn ffordd i chi gofio babi arbennig yn ystod mis sy’n bwysig i chi, efallai ar eu pen-blwydd neu’r dyddiad disgwyl. Efallai eich bod eisiau dangos i ffrind eich bod yn meddwl amdanyn nhw drwy gyflwyno calon i’w babi neu deulu cyfan, neu efallai eich bod eisiau dod o hyd i ffordd o gofio eich babi heddiw. Bydd SANDS Trees of Love yn eich galluogi chi i wneud yn union hynny.

Mae 4Louis yn darparu blychau atgof a all gynnig ffordd arbennig i deuluoedd mewn profedigaeth gadw eitemau ystyrlon a chofio eu babi. Caiff y 4Louis memory boxes eu cyflwyno’n rhodd am ddim i deuluoedd.

Gwasanaethau coffa blynyddol

Rydym yn cynnal gwasanaeth coffa blynyddol babis a phlant. Mae’r gwasanaeth arbennig hwn yn agored i’r holl deuluoedd o bob ffydd. Mae llawer o rieni yn gweld bod hon yn ffordd dda iawn o gofio eu babi, ynghyd â rhieni eraill sydd wedi rhannu profiad tebyg. Siaradwch â’ch bydwraig arbenigol profedigaeth am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn.  

Trefniadau angladd

Gall trefnu angladd eich babi fod yn arbennig o drallodus. Fe hoffem gynnig cymaint o gymorth ac arweiniad â phosibl i gynorthwyo gyda’ch penderfyniadau.

Bydd eich bydwraig arbenigol profedigaeth  neu swyddog profedigaeth yn egluro eich opsiynau a darparu gwybodaeth ar sut i wneud trefniadau angladd gyda’r ysbyty neu drefnydd angladdau o’ch dewis chi. Bydd y swyddog profedigaeth yn cysylltu rhwng yr ysbyty a’r trefnydd angladdau i sicrhau bod eich dymuniadau yn cael eu bodloni.

Mae pob angladd a drefnir gan yr ysbyty am ddim i deuluoedd sy’n profi camesgoriad neu farw-enedigaeth. 

Petaech yn dymuno gwneud trefniadau angladd preifat, mae cyllid ar gael yng Nghymru i gynorthwyo gydag unrhyw gostau ychwanegol. Bydd ein tîm yn egluro hyn ymhellach.