Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Iechyd Parhaus y GIG

Beth yw Gofal Iechyd Parhaus y GIG?

Mae Gofal Iechyd Parhaus y GIG (a elwir hefyd yn CHC) yn becyn gofal a drefnir ac a ariannir gan y GIG ar gyfer unigolion sy'n oedolion yr aseswyd bod ganddynt anghenion iechyd cychwynnol. Gallwch dderbyn gofal iechyd parhaus mewn unrhyw leoliad, gan gynnwys eich cartref eich hun neu gartref gofal a all fodloni eich anghenion a aseswyd yn ddiogel a chynaliadwy.  Mae Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn rhad ac am ddim ar gyfer eich anghenion a aseswyd, yn wahanol i gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol y gellir codi tâl ariannol amdanynt yn ddibynnol ar eich incwm a'ch cynilion.

Pwy sy'n gymwys ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG?

Gall unrhyw un sydd wedi eu hasesu fel bod ganddynt angen lefel penodol o ofal dderbyn CHC.  Nid yw'n ddibynnol ar afiechyd, diagnosis na chyflwr penodol, neu ar bwy sy'n darparu'r gofal neu o ble y darperir y gofal hwnnw.  Os yw'ch anghenion gofal cyffredinol yn dangos bod eich angen gofal cychwynnol yn angen iechyd, efallai y byddwch chi'n gymwys am CHC. Unwaith y byddwch yn gymwys am CHC, bydd eich gofal yn cael ei ariannu drwy'r GIG fodd bynnag mae hyn yn destun adolygiad ac os yw eich anghenion gofal yn newid yna gall y trefniadau ariannu newid hefyd.

Gwybodaeth am Ofal Iechyd Parhaus y GIG

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu taflenni wedi eu dylunio i helpu ac arwain staff, yr unigolyn ac aelodau o'r teulu drwy'r broses CHC a ddefnyddir i bennu cymhwysedd..

Canllaw Hawdd ei Ddarllen

Mae Fframwaith Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer CHC, yn amlinellu eu polisi ar gyfer cymhwysedd ar gyfer CHC, cyfrifoldebau sefydliadau'r GIG ac awdurdodau lleol o dan y Fframwaith a'r materion perthnasol.  Mae'n amlinellu proses ar gyfer y GIG, gan weithio ar y cyd gyda phartneriaid awdurdod lleol, i asesu anghenion iechyd, penderfynu ar gymhwysedd ar gyfer CHC a darparu gofal priodol.   Pwrpas y fframwaith yw darparu sylfaen cyson ar gyfer asesu, comisiynu a darparu CHC ar gyfer oedolion ar draws Cymru. Gellir dod o hyd i'r Fframwaith ar y ddolen hon.

Mae Fframwaith CHC 2014 wedi'i archifo ar gael yma.

Os oes gennych unrhyw ymholiad parthed Gofal Iechyd Parhaus y GIG, cysylltwch â'r Tîm Gofal Iechyd Parhaus priodool ar:

Wrecsam a Sir y Fflint

E-bost: 
BCU.CHCSPOAEast@wales.nhs.uk
BCU.CHCOPMHEast@wales.nhs.uk

Ffôn:
03000858762

Siroedd Conwy a Dinbych

E-bost: 
BCU.chcspoacentral@wales.nhs.uk
BCU.CHCOPMHCentral@wales.nhs.uk

Ffôn:
03000 855 568
03000 856 392

Gwynedd ac Ynys Môn

E-bost: 
BCU.CHCApplicationsWest@wales.nhs.uk
BCU.CHCOPMHWest@wales.nhs.uk

Ffôn:
03000 851 761
03000 852 681

Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

E-bost: 
bcu.mhldchc@wales.nhs.uk

Ffôn:
03000 852 675
03000 852 676

Gofal Parhaus Plant a Phobl Ifanc

Mae Gofal Parhaus y GIG yn gymorth a ddarperir ar gyfer plant a phobl ifanc o dan 18 mlwydd oed sydd angen pecyn wedi ei deilwra o ofal oherwydd eu hanabledd, damwain neu salwch parhaus.   Mae'n wahanol i Ofal Iechyd Parhaus y GIG, a all gael ei ddarparu i oedolion sydd ag anghenion iechyd cymhleth neu ddifrifol. 

Y prif wahaniaeth yw er bod Gofal Iechyd Parhaus i oedolion yn canolbwyntio'n bennaf ar anghenion iechyd a gofal, dylai gofal parhaus i blant neu unigolion ifanc hefyd ystyried eu datblygiad corfforol, emosiynol a deallusol wrth iddynt ddatblygu i fod yn oedolyn.

Mae hyn yn golygu os yw eich plentyn wedi ei asesu ar gyfer Gofal Parhaus y GIG, mae'n debygol y bydd ystod o sefydliadau'n ymwneud â'r achos megis gwasanaethau iechyd, addysg a gwasanaethau plant awdurdod lleol.  Bydd y gwahanol asiantaethau'n cyfrannu at becyn gofal eich plentyn os oes ganddynt anghenion gofal parhaus.

Os ydych yn meddwl y dylai eich plentyn gael ei asesu ar gyfer gofal parhaus y GIG, siaradwch â gweithiwr proffesiynol gofal iechyd neu gymdeithasol sy'n gweithio gyda'ch plentyn a bydd yn ei gyfeirio os yw'n briodol.

Os oes gennych unrhyw ymholiad am Ofal Parhaus plant a phobl ifanc, cysylltwch â:

E-bost; bcu.chcchildrenscontinuingcare@wales.nhs.uk  

 

Hawliau pobl hŷn mewn cartrefi gofal

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi lansio canllaw ar gyfer pobl hŷn, sy’n darparu gwybodaeth hanfodol am eu hawliau wrth symud i mewn a byw mewn cartref gofal.

Mae’r canllaw hwn yn helpu pobl hŷn a’u teuluoedd i ddeall yn well yr hawliau sydd ganddynt, beth y gallant ei wneud os ydynt yn pryderu nad yw eu hawliau’n cael eu cynnal, a manylion sefydliadau a all ddarparu cymorth a chefnogaeth, gan gynnwys tîm cyngor a chymorth y Comisiynydd ei hun.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Arolwg Asesiad ar gyfer Proses Gymhwyster Gofal Iechyd Parhaus (CHC) y GIG

Mae'r arolwg hwn yn gofyn cwestiynau am eich profiad o asesiad ar gyfer proses gymhwyster Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Rhowch eich adborth drwy gwblhau ein harolwg.