Mae rhagnodi cymdeithasol yn derm mantell sy'n disgrifio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o gysylltu pobl ag asedau yn eu cymuned leol. Mae asedau cymunedol yn cynnwys grwpiau cymunedol ac ymyriadau a gwasanaethau y gellid eu cynnig ar-lein neu wyneb yn wyneb, yn ogystal ag adeiladau, tir neu hyd yn oed unigolyn o fewn cymuned.
Mae rhagnodi cymdeithasol yn ffordd o gysylltu pobl, beth bynnag fo'u hoedran neu eu cefndir, â'u cymuned, i’w galluogi i reoli eu hiechyd a'u lles yn well. Gall helpu i rymuso unigolion i nodi eu hanghenion, eu cryfderau a'u hasedau personol eu hunain a’u galluogi i gysylltu â'u cymunedau eu hunain i gael cymorth â'u hiechyd a'u lles.
Disgwylir i ragnodi cymdeithasol gyflawni llawer o bethau ac ystyried bod hynny’n un o’r atebion i ddatrys y canlynol
Cymorth Gwirfoddol Cymunedol Conwy
Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol yn Wrecsam