Neidio i'r prif gynnwy

Mai 2023

Cydnabod meddyg o Ysbyty Gwynedd mewn seremoni wobrwyo genedlaethol.

Mae meddyg a ddisgrifiwyd fel 'arweinydd llawn gweledigaeth' wedi cael ei chydnabod mewn seremoni wobrwyo genedlaethol sy'n anrhydeddu'r menywod ethnig gorau a mwyaf llewyrchus yng Nghymru. Gwnaeth Dr Kakali Mitra ennill y wobr Rheoli ac Arwain yng Ngwobrau Cymdeithas Cyflawniad Menywod o Leiafrifoedd Ethnig Cymru yng Nghaerdydd.

Cafodd Dr Mitra ei phenodi fel Radiolegydd Ymyriadol Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd yn 2007 ac mae hi wedi bod yn Gyfarwyddwr Clinigol Radioleg yn y Bwrdd Iechyd ers 2018. Yn y rôl hon, mae hi wedi goruchwylio'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau Radioleg yng Ngogledd Cymru.