Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Maelor Wrecsam yn cyhoeddi argraffiad newydd o'r canllawiau uchel eu clod sy'n cael eu gwerthu yn fyd eang

23/08/2021

Mae canllaw clinigol sydd wedi dod yn ‘werthwr gorau’ ar gyfer yr Adran Fferylliaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam, yn cyhoeddi ei bedwerydd argraffiad y mis hwn.

Mae’r canllaw o’r enw ‘The NEWT Guidelines’ yn adnodd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr i helpu pobl gyda phroblemau llyncu. Mae’r canllaw wedi’i restru ar y rhestr adnoddau hanfodol o Wybodaeth am Feddyginiaethau yn y DU, gan ei fod yn uchel ei barch ac yn cael ei ddefnyddio ymysg gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ar draws y byd.

Meddai Jennifer Smyth, Fferyllydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam: “Rydym yn falch iawn o weld canllaw, a ddechreuodd fel prosiect lleol, yn tyfu i fod yn ffynhonnell gyfeirio cydnabyddedig sy’n elwa cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol yn y wlad hon ac ar draws y byd.

“Gall problemau llyncu effeithio nifer fawr o gleifion, ac mae’n bwysig eu helpu i gymryd eu meddyginiaethau yn ddiogel ac effeithiol. Mae’r canllawiau hyn yn darparu siop un stop ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr i ddarganfod yr wybodaeth sydd ei angen arnynt bob dydd wrth helpu pobl gyda phroblemau llyncu.”

Dechreuodd ‘The NEWT Guidelines’ dros un deg naw mlynedd yn ôl fel canllaw ar gyfer nyrsys yn Wrecsam a oedd yn gofalu am gleifion oedd ddim yn gallu cymryd meddyginiaethau ar ffurf tabledi.

Roedd nyrsys eisiau gwybod a oedd yn ddiogel i falu tabledi (neu agor capsiwlau) fel y gallent roi’r feddyginiaeth i gleifion a oedd ag anawsterau llyncu neu diwbiau bwydo. Ar y pryd nid oedd unrhyw wybodaeth wedi’i gyhoeddi ar y pwnc, ond eto roedd yr un cwestiynau yn codi. Felly casglodd y Fferyllydd Brenda Murphy yr atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin a datblygodd set o ganllawiau ar gyfer cydweithwyr, yn gorchuddio 84 o wahanol gyffuriau.

Ehangwyd ar y gwaith dechreuol gan ei chydweithiwr Jennifer gyda phob ymholiad newydd yn cael ei ymchwilio a’i ychwanegu at y canllawiau. Rhannwyd copïau o’r canllawiau gyda fferyllwyr mewn canolfannau eraill, yn gyfnewid am brotocolau lleol neu brofiad y gallen nhw eu rhannu gyda’r prosiect. O ganlyniad i hyn, tyfodd yr ystod o feddyginiaethau o fewn y canllawiau yn gyson, ac erbyn 2006 roedd yn gorchuddio 500 o wahanol gyffuriau.

Bryd hynny, argraffwyd y gwaith yn broffesiynol fel ei fod ar gael i’w werthu am y tro cyntaf, gan ei wneud yn hygyrch i sefydliadau iechyd eraill. Gwerthwyd oddeutu 900 copi, a rhoddwyd copiau i gysylltiadau a chyfranogwyr.

Roedd ail argraffiad wedi’i ddiweddaru yn cynnwys gwybodaeth ar 100 cyffur pellach, ac mae wedi gwerthu oddeutu 2,500 copi o fewn y DU a dramor gyda chopïau yn cael eu hanfon mor bell ag Israel, Gwlad yr Iâ, Malaysia, Awstralia a Seland Newydd.

Yn 2011 rhyddhawyd y canllawiau ar ffurf electronig fel gwefan The NEWT Guidelines, gan wneud y canllawiau yn hygyrch i unrhyw sefydliad iechyd, a’u caniatáu i gael eu diweddaru’n hawdd fel y gall tanysgrifwyr gael mynediad at yr wybodaeth ddiweddaraf ar unwaith.

Gyda galw o hyd ar gyfer y trydydd argraffiad, a gyhoeddwyd yn 2015, mae’r Adran Fferylliaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi diweddaru’r llyfr i gynhyrchu pedwerydd argraffiad, gan roi mynediad i ddefnyddwyr y copi caled i’r holl wybodaeth sydd wedi’i ddiweddaru o’r wefan.