Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Gwynedd yn treialu camerâu endosgopi capsiwl colon newydd i brofi am ganser y coluddyn

03 Tachwedd, 2022

Mae camerâu bach y gall cleifion eu llyncu i gael eu gwirio am ganser y coluddyn bellach yn cael eu cynnig yn Ysbyty Gwynedd fel rhan o brosiect cenedlaethol.

Mae’r capsiwl colon PillCam yn bilsen hawdd ei llyncu gyda dau gamera y tu mewn iddo. Mae’n darparu delweddau clir i helpu clinigwyr i ganfod polypau, a all ddatblygu’n ganser y coluddyn, ac yn eu helpu i benderfynu a oes angen colonosgopi.

Mae colonosgopïau traddodiadol yn cynnwys gwahodd cleifion i’r ysbyty ar gyfer triniaeth gleifion allanol, lle bydd tiwb yn cael ei osod yn y coluddyn mawr. Gall hon hefyd fod yn driniaeth ymledol, tra bydd y dechnoleg newydd hon, a gynigir i nifer fach o gleifion addas i ddechrau, yn golygu y gall pobl barhau i wneud eu gweithgareddau dyddiol arferol ar ôl llyncu’r capsiwl.

Gwelwyd y claf cyntaf i gael y driniaeth hon fel rhan o’r prosiect hwn yng Nghymru yn yr Adran Endosgopi yn Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd Sandra Ewing, Nyrs Endosgopydd yn Ysbyty Gwynedd: “Rydym yn hynod gyffrous i fod yr ysbyty cyntaf yng Nghymru i dreialu’r dechnoleg newydd hon fel rhan o’r prosiect cenedlaethol.

“Mae’n gam gwych ymlaen wrth weithio tuag at wella’r profiad i gleifion sydd angen y mathau hyn o ymchwiliadau.”

Ychwanegodd y Gastroenterolegydd Ymgynghorol, Dr Jonathon Sutton, yn Ysbyty Gwynedd: “Rydym bob amser yn awyddus i ddefnyddio technoleg newydd o fewn ein hadran er budd ein cleifion. 

“Mae’n fraint i ni fod yn rhan o’r prosiect cenedlaethol hwn gan fod gan hyn y potensial i wneud gwahaniaeth enfawr i gleifion a bydd yn helpu i wneud diagnosis o achosion o ganser yn gynnar, gan roi’r canlyniadau gorau posibl i gleifion o driniaeth gan ddefnyddio triniaeth lai ymledol.”

Mae’r driniaeth arloesol hon yn newydd i Gymru ac mae’n cael ei threialu ar hyn o bryd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan y Rhaglen Endosgopi Genedlaethol, ac yn cael ei gefnogi gan Raglen Arloesi Gofal wedi’i Gynllunio Comisiwn Bevan.

Dywedodd yr Athro Sunil Dolwani, Arweinydd Clinigol ar gyfer y Rhaglen Endosgopi Genedlaethol (NEP): “Rhan o’n rôl yn yr NEP yw dod ag arbenigedd clinigol ac ymchwil ynghyd i wella gwasanaethau a thriniaethau diagnostig i gleifion yng Nghymru.

“Mae cynllun peilot capsiwl colon PillCam yn enghraifft wych o’r arloesedd sy’n bosibl pan fydd gweithwyr proffesiynol yn cydweithio ar draws sefydliadau.

“Trwy ddarparu opsiwn diagnostig arall i glinigwyr ar gyfer cleifion sy’n aros am golonosgopi, gallai Endosgopi Capsiwl y Colon helpu i fynd i’r afael â materion yn ymwneud ag amseroedd aros a chapasiti staff o fewn y llwybr canser gastroberfeddol isaf.”

Un o ddyheadau’r prosiect yw sefydlu cronfa adrodd genedlaethol o feddygon a nyrsys hyfforddedig sy’n gallu adolygu’r lluniau capsiwl o bell ble bynnag y bônt yng Nghymru.

Bydd llwyddiant y prosiect a manteision y prawf i gleifion yn cael eu hadolygu mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd yn gynnar yn y flwyddyn nesaf.