Neidio i'r prif gynnwy

Swyddog Cymorth TGCh Ysbyty Gwynedd yn cael ei goroni'n Brentis y Flwyddyn

22.02.23

Mae Swyddog Cymorth TGCh yn Ysbyty Gwynedd a gafodd wybod na fyddai byth yn gwella’n llwyr ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd wedi cael ei goroni’n Brentis y Flwyddyn.

Daeth Daf i’r brig yn y categori rheoli yn Seremoni Gwobrwyo Prentisiaethau Grŵp Llandrillo Menai eleni i gydnabod prentisiaid dawnus am eu cyfraniad arbennig yn y gweithle a thu hwnt.

Mae Dafydd, sy’n cael ei adnabod fel Daf, yn dweud ei fod yn teimlo’n hynod o lwcus o fod lle y mae heddiw yn dilyn adferiad anodd am 15 mlynedd yn dilyn gwaedlif ar ei ymennydd ym mis Tachwedd 2000.

Dywedodd: “Pan ges i waedlif enfawr ar yr ymennydd a thra roeddwn mewn coma, dywedodd y meddygon wrth fy ngwraig a fy nheulu nad oedd gobaith o wella oherwydd difrifoldeb y gwaedlif.

“Gofynnodd y meddygon i’m gwraig hyd yn oed ystyried rhoi organau, ond nid oedd wedi colli gobaith amdanaff a safodd wrth fy ymyl trwy’r cyfand. “Yn ffodus llwyddais i dynnu drwodd, er pan ddeffrais doeddwn i ddim yn adnabod fy nheulu fy hun, roedd yn rhaid i mi ddysgu sut i siarad, bwyta, cerdded a hyd yn oed ddefnyddio’r toiled eto.”

Darganfu Daf fod y gwaedlif wedi’i achosi gan gamffurfiad rhydwythiennol (AVM), sef cymysgedd annormal o bibellau gwaed sy’n cysylltu’r rhydweliau a’r gwythiennau, sy’n amharu ar lif gwaed arferol a chylchrediad ocsigen.

Yn anffodus, mae effaith yr AVM yn parhau gyda Daf wrth iddo barhau i gael problemau gyda llyncu, ei gydbwysedd a diplopia (golwg dwbl).

Yn dilyn cyfnod hir o adferiad cofrestrodd Daf yn Llandrillo Menai a dechreuodd 16 mis o astudio gyda Hyfforddiant Arfon Dwyfor.

“Roeddwn i bob amser yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith, doeddwn i ddim eisiau aros gartref a gwneud dim byd. Rwy’n hynod ddiolchgar am y brentisiaeth gyda Hyfforddiant Arfon Dwyfor, mae wedi fy helpu i gymhwyso fel rheolwr o fewn y gwasanaeth iechyd a achubodd fy mywyd ac rwyf bellach mewn cyflogaeth lawn amser o fewn yr adran TG.

“Rydw i hefyd eisiau dweud diolch enfawr i fy nhiwtor Doreen am gredu ynof a’m cefnogi ac roedd hi yno pan oedd angen ei chyngor.

“Rwyf mor ddiolchgar i’r Bwrdd Iechyd am roi’r cyfle hwn i mi, cyn gweithio ym maes TG roeddwn hefyd yn gweithio yn yr Uned Profi Covid a chyn hynny roedd o fewn y tîm Gofal Lliniarol yn y gymuned.

“Rwy’n teimlo’n anhygoel o lwcus ac yn hynod falch o’r hyn rydw i wedi’i gyflawni ar ôl popeth a ddigwyddodd. Mae fy mhrofiad i’n dangos na ddylech chi byth roi'r gorau iddi a pharhau i ymladd yr holl ffordd,” ychwanegodd Daf.