Neidio i'r prif gynnwy

Pobl ifanc yn helpu i ddatblygu a lansio'r Siarter Hawliau Plant

08/06/2023

Mae plant a phobl ifanc ar draws Gogledd Cymru wedi datblygu Siarter Hawliau Plant gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.

Lansiodd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) a’r Gwasanaethau Niwroddatblygiadol ddigwyddiad arbennig gyda siaradwyr gwadd yn cynnwys Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Cymru a helpodd i ddatblygu’r siarter.

Dywedodd Scarlett Williams, un o’r bobl ifanc a helpodd i ddatblygu’r siarter: “Mae datblygiad y Siarter Plant wedi bod yn gyfle gwych i bobl ifanc leisio eu barn, gan roi eu profiadau ar waith er mwyn ysgogi newid cadarnhaol.

“Yn dilyn lansiad y Siarter, gobeithio y bydd camau o'r fath yn parhau wrth iddynt gael eu gweithredu i mewn i wasanaethau gydag arweiniad y Llyfr Ryseitiau, gan godi ymwybyddiaeth o hawliau plant a'r hyn sy'n bwysig i bobl ifanc."

Mae’r siarter, sy'n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC), yn set o safonau y bydd y Bwrdd Iechyd yn gweithio tuag atynt, i sicrhau bod plant a phobl ifanc Gogledd Cymru, sy'n ffurfio 27% o gyfanswm y boblogaeth (Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2021), yn cael eu trin yn deg a bod ganddynt lais ar faterion sy'n bwysig iddynt.

Dywedodd Wendy Pinder, pennaeth nyrsio dros dro ar gyfer Gwasanaethau CAMHS, Niwroddatblygiadol ac Anabledd Dysgu yn Ardal y Dwyrain: “Mae’n bleser gennym gael lansio’r siarter yr ydym ni wedi’i ddatblygu gyda phlant a phobl ifanc ar draws Gogledd Cymru. Mae’r agenda Hawliau Plant yn flaenoriaeth flaenllaw i ni ac o fewn y siarter rydym ni wedi gwneud 10 addewid sy'n rhoi gwybod i blant a phobl ifanc y bydd eu barn yn cael ei pharchu, y bydd rhywun yn gwrando arnynt, y byddant yn cael eu cefnogi i wneud eu penderfyniadau eu hunain, ac y byddant yn derbyn gofal cyfartal.

“Rydym ni’n addo darparu plant a phobl ifanc gyda’r driniaeth, cyngor ac addysg iechyd gorau er mwyn eu helpu i dyfu i fod yn iach, hapus a’r cyfan y gallent fod. Byddwn ni hefyd yn ateb cwestiynau’n onest ac mewn ffordd hynod ddealladwy.”

Yn ystod datblygiad y siarter, cynhaliodd CAMHS ddigwyddiadau mawr gan ymgysylltu â 2,400 o blant a phobl ifanc a helpodd i greu ‘llyfr ryseitiau’, sy’n darparu gwybodaeth a mewnwelediad i’r hyn sy’n bwysig i bobl ifanc, ac i gefnogi sefydliadau ar draws Gogledd Cymru i greu eu haddewidion eu hunain o safonau a gwerthoedd ar gyfer y plant a'r bobl ifanc sy'n cyrchu gwasanaethau a chefnogi cenedlaethau'r dyfodol.