Neidio i'r prif gynnwy

Plant wedi'u swyno gan saffaris Affricanaidd, 71 mlynedd o garwriaeth a dawns gyda'r Dywysoges Margaret

Roedd disgyblion yn gegrwth wrth glywed straeon “Ffolant” 91 mlynedd, dawns awyrluddwr gyda’r Dywysoges Margaret a mwy fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig.

Cynhaliwyd sesiwn cwestiwn ac ateb rhwng plant ysgol gynradd o Ysgol Maes Y Felin, Treffynnon, a phobl hŷn o ward Ffynnon yn ysbyty cymuned y dref.

Cadeiriodd Lyn Siebenmann, cydlynydd gweithgareddau a lles yr uned, y drafodaeth yn ystod yr hyn y bu’r plant yn holi eu cyfeillion hŷn i’w helpu i wneud cofnod digidol o’u profiadau.

Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd cleifion ward Ffynnon a gymerodd ran yn cael gweld y canlyniad – ac roedd digon o wybodaeth ar gyfer y plant ifanc.

Atebodd Sheila Heffer, sy’n wyth deg chwe blwydd oed, gwestiwn am ei phrofiadau o deithio trwy hel atgofion am drip i Dde Affrica nifer o flynyddoedd yn ôl.

Gwelodd lewod, gwyliodd fabi eliffant yn rhwygo coeden i lawr ac adroddodd ar foment amhrisiadwy lle plygodd jiráff i lawr ac edrych i fyw ei llygaid.

“Rwy’n cofio meddwl pa mor hardd oedd yr amrannau hir”, meddai.  “Fe wnaeth i mi fod eisiau eu tynnu i ffwrdd a’u cael nhw i mi fy hun.”

Diolch byth, llwyddodd i ddod oddi yno gyda’i stori, ond eto sêr y sioe oedd cwpl ag enw priodol iawn, Ray a Gladys Valentine, y ddau yn 91 oed o Ruddlan.

Wedi bod yn briod am 71 mlynedd, roeddent yn falch o allu adrodd eu bod yn ffrindiau gorau ac yn dal i fwynhau profi eu galluoedd gyda gêm gardiau rheolaidd fel ‘crib and canasta’ – y mae Gladys fel arfer yn ei ennill.

Dywdeodd Ray, a ymunodd â’r digwyddiad fideo i fod gyda’i wraig, sydd wedi bod ar ward Ffynnon am tua 5 wythnos, ei fod yn gariad ar yr olwg gyntaf.

Yn gyn-hyfforddwr driliau yn yr RAF, dywedodd Ray sut aeth i ddawns un noson ar ôl y rhyfel, ychydig yn simsan cyfaddefodd.

Disgrifiodd sut y gwelodd Gladys yn hardd mewn coch ar y llawr dawnsio, ac ar ôl dweud wrth ei ffrindiau ei fod eisiau dawnsio â hi, camodd allan, ac ennill ei chalon.

Priododd y ddau ar Fehefin 3ydd, 1950, ger Stockport a dywedodd y cwpl sut y bu iddynt weld ‘Cyflwyno’r Faner’ yn Llundain ar eu mis mêl.

Eto, datgelodd Ray, sydd yn ôl Gladys yn “ddawnsiwr penigamp”, ei fod wedi chwyrlio’r diweddar Dywysoges Margaret o gwmpas ystafell ddawnsio enwog y Lyceum yn Llundain.

Eglurodd: “Roedd yn ddawns ‘Ladies excuse me’.  Daeth y Dywysoges Margaret o gwmpas - ac fe ddawnsion ni tua phedwar cam, cyn iddi fynd ymlaen i ddawnsio gyda rhywun arall.

“Roedd hi’n glên iawn ac yn ddawnswraig wych.”

Fodd bynnag, Gladys fydd ei ‘Valentine’ o am byth, ac nid mewn enw yn unig, gan iddi ddatgelu fod Ray mor ofalgar ac yn helpu o gwmpas y tŷ.

Meddai: “Fi sy’n gwneud y coginio, er mae’n rhaid i mi gymryd pethau’n ara’ deg y dyddiau yma, a Ray sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith tŷ erbyn hyn.”

Dywedodd Lyn Siebenmann ei bod yn bwriadu llunio “llyfr atgofion” o’r holl straeon ac ychwanegu ato gydag atgofion cleifion eraill sy’n aros ar y ward yn y dyfodol.

Mae’r ward wedi ei rhannu’n ddwy ran, A a B, a gall gymryd 44 o gleifion hŷn.

Meddai: “Mae gen i’r swydd orau yn y byd gan fy mod yn cael gwrando ar y straeon difyr yma drwy’r dydd.

“Os na fyddwn ni’n eu cofnodi a’u dathlu, byddant yn mynd ar goll, ac mae hynny’n biti mawr.  Weithiau gwelir y personoliaethau hyfryd a llawn profiad yma fel casgliad o symptomau a salwch, yn hytrach na phobl.

“Rwy’n credu mai dyma’r peth mwyaf gallwn ni ei wneud o ran rhoi parch ac urddas iddynt – gwrando ar eu straeon a’u rhoi ar gof a chadw.”