Neidio i'r prif gynnwy

Mynedfa newydd at faes parcio Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam

31.08.2022

Mae Ysbyty Maelor Wrecsam yn agor mynedfa newydd at faes parcio'r Adran Achosion Brys i gynorthwyo â'r gwaith o osod cyfleuster radioleg newydd.

Yn fuan, bydd yr ysbyty yn agor mynedfa newydd ar faes parcio'r Adran Achosion Brys trwy'r fynedfa ar gyfer staff ac ambiwlansiau ger Ffordd Croesnewydd, ac ar ôl cwblhau'r gwaith, caeir y fynedfa bresennol. Codir arwyddion newydd i hysbysu cleifion ac ymwelwyr.

Diben hyn yw cynorthwyo â'r gwaith o osod sganiwr MRI modiwlaidd uwch sy'n cael ei osod y tu allan i'r Adran Radioleg, tra bydd sganiwr presennol yr ysbyty yn cael ei uwchraddio.

Dywedodd Stephen Roberts, Rheolwr y Gwasanaethau Radioleg: "Bydd cael yr uned MRI fodiwlaidd ar y safle yn ein helpu i gynnal y gwasanaeth MRI tra bydd y sganiwr presennol yn cael ei uwchraddio a'r adran MRI yn cael ei hailwampio. Bydd y sganiwr MRI modiwlaidd yn dal gennym ar y safle ar ôl cychwyn defnyddio'r sganiwr newydd, ac fe wnaiff hynny ganiatáu i ni leihau'r rhestr aros er budd cleifion sy'n disgwyl am sgan MRI.”

Roedd y llecyn ble caiff y sganiwr MRI modiwlaidd newydd yn cael ei osod yn cael ei ddefnyddio'n flaenorol gan sgfaniwr PET/CT symudol sydd wedi'i symud i faes parcio'r Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAC).

Mae'r cyfleuster newydd yn rhan o raglen gosod adnoddau newydd gwerth sawl miliwn o bunnoedd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei gweithredu yn y gwasanaeth radioleg ledled Gogledd Cymru. Mae'r adnoddau newydd yn cynnwys ystafelloedd pelydr X, sganwyr a pheiriannau uwchsain.

Yn gynharach eleni, gosodwyd camera gama newydd o'r radd flaenaf yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae'n declyn sy'n sganio rhannau o'r corff, yn cynnwys y rhan fwyaf o'r organau pwysicaf megis yr ymennydd, yr ysgyfaint a'r esgyrn. Mae'r camera hwn yn disodli hen declyn delweddu, ac mae'n sganio'n gyflymach ac yn cynhyrchu delweddau cliriach, ac mae dos yr ymbelydredd yn is, ac fe wnaiff hynny oll helpu i gyflymu'r gwaith o wneud diagnosis o gyflyrau cleifion.

Hefyd, mae'r ysbyty wedi agor Ystafell Radioleg Ymyriadol wedi'i hailwampio, ac mae'n cynnwys teclyn Siemes Atris Q C-arm newydd. Bydd yr offer pelydr X newydd o radd flaenaf hyn yn mynd ag ansawdd delweddau i'r lefel nesaf gan ddefnyddio dosys llai o ymbelydredd, a bydd hefyd yn lleihau'r angen i gleifion gan sganiau CT neu MRI cyn eu triniaethau ymyriadol, oherwydd gellir mewnfudo sganiau blaenorol i'r system a'u defnyddio i lywio gwaith y Radiolegwyr Ymyriadol yn ystod triniaethau.