Neidio i'r prif gynnwy

Jackie yn derbyn gwobr ar ran y tîm mewn digwyddiad canser mawreddog

17.11.22

Mae tîm o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cipio gwobr arloesedd fawreddog am ei waith yn helpu cleifion sy’n dioddef o flinder sy’n gysylltiedig â chanser.

Yr wythnos diwethaf, enillodd y tîm Seicoleg Glinigol a Therapi Galwedigaethol Wobr Rhagoriaeth Macmillan am Arloesedd mewn digwyddiad Gala yng Ngwesty’r Hilton, Wembley.

Cyflwynodd Gail Porter y wobr i Jackie Pottle sy’n arweinydd therapi gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd Macmillan a’i derbyniodd ar ran tîm Betsi Cadwaladr.

Ynghyd â'r seicolegydd clinigol Lisa Heaton-Brown, helpodd Jackie arwain y gwaith o ddatblygu gwasanaeth newydd sydd wedi'i gynllunio i godi ymwybyddiaeth am flinder sy'n gysylltiedig â chanser a gwella'r gefnogaeth i gleifion sy'n dioddef ohono.

O ganlyniad, ymunodd gwasanaethau Seicoleg Glinigol a Therapi Galwedigaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda'i gilydd i ddatblygu rhaglen gymorth a hyfforddiant arloesol newydd.

Roedd hyn yn cynnwys rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf a'r arfer gorau i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar draws gogledd Cymru yn cefnogi unigolion sy’n dioddef blinder sy’n gysylltiedig â chanser.

Gwasanaeth COVID Hir wedi cael ei enwebu am ddwy wobr iechyd benigamp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Datblygodd i fod yn rhaglen dreigl o sesiynau addysg rhithwir ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â chlinigau grŵp fideo rhyngweithiol i helpu cleifion i reoli eu blinder eu hunain.

Yn bwysig, mae’n wasanaeth y gall cleifion canser gyfeirio eu hunain ato, yn hytrach nag aros i gael eu cyfeirio gan glinigydd.

Dywedodd Jackie: “Mae’n fraint derbyn y wobr hon, nid yn unig i mi fy hun ond hefyd ar ran fy nghydweithwyr am eu gwaith diflino yn sefydlu’r gwasanaeth newydd hwn.

“Mae’r adborth gan gleifion canser sydd wedi elwa o’r fenter yn dangos eu bod yn teimlo bod y rhaglen newydd yn dilysu eu profiadau nhw  – mae’n cydnabod bod blinder sy’n gysylltiedig â chanser yn fater real iawn ac y wanychol yn gorfforol.

“Y canlyniad oedd bod cleifion canser yn teimlo eu bod yn derbyn cymorth uniongyrchol, personol a'u bod wedi datblygu strategaethau ymdopi i’w helpu i reoli eu blinder yn y dyfodol.

“Roedd defnyddio cymorth rhithwir arloesol gan gyfoedion yn hanfodol i ddarparu’r cymorth yr oedd ei wir angen.”

Arhosiad ysbyty Nyrs Kelly yn gatalydd dros newid i yrfa lewyrchus - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Cafodd Jacqui Renwick, o Fetws-yn-Rhos ddiagnosis o ganser y fron cam 1 ym mis Hydref 2021. Dywedodd fod y clinigau ar-lein wedi ei helpu i gynllunio ei bywyd yn well ac i gael cefnogaeth gan gyd-ddioddefwyr.

Ychwanegodd: “Mae meddyliau ofnadwy yn rasio trwy eich pen ac felly roedd y clinigau yn brofiad cadarnhaol iawn i mi.

“A dweud y gwir dwi'n meddwl mai'r peth allweddol gyda'r dosbarthiadau oedd sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun. Rydych chi'n dueddol o deimlo'n unig iawn wrth gael triniaeth  cemotherapi ac roedd yn gysur gweld pobl eraill a oedd yn teimlo'r un peth â chi.”

Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro Betsi Cadwaladr, Gill Harris: “Mae Jackie, Lisa a’r tîm wedi dangos ochr orau’r bwrdd iechyd a’r hyn mae’n ei olygu, ac rwy’n falch iawn eu bod wedi cael eu cydnabod mewn digwyddiad mor fawreddog.

“Maen nhw wedi cymryd mater pwysig iawn ond un sy’n cael ychydig iawn o gydnabyddiaeth, ac wedi rhoi cysur a chefnogaeth i gleifion canser pan maen nhw ar eu mwyaf bregus. Rwy’n falch iawn o’r gwaith y maent yn ei wneud ac yn eu llongyfarch i gyd am ennill y gydnabyddiaeth haeddiannol hon.”

Ychwanegodd Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru: “Ni allem fod yn fwy balch o Jackie a’r tîm am yr hyn y maent wedi’i gyflawni.

"Mae blinder cemo mor wanychol - ond clinig newydd wedi fy helpu i gynllunio pethau'n well" - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

“Gall canser effeithio ar bob rhan o fywyd unigolyn. Mae gwaith Jackie nid yn unig wedi ymchwilio i’r problemau real iawn sy’n wynebu cleifion canser, ond mae wedi datblygu lefel hynod bersonol o gymorth i unigolion â chanser sy’n wynebu’r problemau hynny yng ngogledd Cymru.

“Mae Gwobrau Rhagoriaeth Macmillan yn gyfle blynyddol i ddangos ein gwerthfawrogiad i weithwyr proffesiynol Macmillan, sy’n gweithio’n ddiflino o ddydd i ddydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl â chanser.

“Mae’r gwobrau hefyd yn amlygu’r gwaith partneriaeth hanfodol sy’n bodoli rhwng Macmillan a phartneriaid fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle mae pob rôl Macmillan yn cael ei hariannu bron yn gyfan gwbl diolch i haelioni’r cyhoedd.

“Eleni oherwydd y pwysau y mae’r pandemig coronafeirws yn parhau i’w roi ar wasanaethau canser rheng flaen, mae’r gwaith hwnnw wedi bod yn bwysicach nag erioed o’r blaen.

“Mae’n rhaid i ni ddiolch yn fawr iawn i Jackie a phawb a fu’n rhan o’r prosiect arloesol newydd hwn am wneud ymdrech mor benderfynol i wella gofal canser gofal hyd yn oed mewn amgylchiadau mor heriol.”