Neidio i'r prif gynnwy

Disgyblion Bangor yn cael blas ar yrfaoedd yn y GIG

14.02.23

Mae disgyblion yn yr ysgol uwchradd fwyaf yng Ngwynedd wedi bod yn cael cymorth ac awgrymiadau ar sut i gael cyfweliad da er mwyn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth o fewn y GIG yn y dyfodol.

Fel rhan o ddigwyddiad Gyrfa Cymru, mae’r Metron Dros Dro ar gyfer Recriwtio a Chadw Staff, Sandra Robinson-Clark, a Chynorthwyydd Adnoddau Dynol Rebeka Adcock, wedi bod yn ymweld ag Ysgol Friars ym Mangor i siarad gyda myfyrwyr am yr hyn sydd gan y GIG i'w gynnig.

Mae disgyblion wedi bod yn cael cyngor ar ba yrfaoedd sydd ar gael o fewn y GIG yn ogystal â derbyn cyfweliadau ffug ar gyfer swyddi yn y dyfodol.

Dywedodd Sandra: “Mae hyn wedi bod yn gyfle gwych i ymgysylltu â disgyblion a’u hannog i ystyried gyrfa yn y GIG.

 “Cawsom adborth gwych gan y rhai a ddaeth i’n gweld ac mae wedi bod yn bleser gwneud ychydig o gyfweliadau ffug a rhoi adborth cyflym fel eu bod yn gallu ystyried beth y gallant ei wneud i wella erbyn iddynt ymgeisio am gyrsiau neu swyddi.

 “Braf oedd gweld cymaint ohonynt yn dangos diddordeb mewn rolau iechyd a gofal ac rydym yn gobeithio y bydd rhai ohonynt yn ymgeisio am swyddi gyda ni yn y bwrdd iechyd yn y dyfodol agos!”

Roedd Lee Capper, 15, yn un o’r disgyblion a ddaeth i siarad gyda Sandra a Rebekah yn ystod un o’r digwyddiadau.

Dywedodd: “Roedd cael siarad â dau aelod o staff o’r ysbyty lleol a chael ychydig mwy o wybodaeth am ba swyddi sydd i’w cael yn y GIG yn hynod ddefnyddiol.

“Mae fy mam yn gweithio yn Ysbyty Gwynedd felly mae gen i ddealltwriaeth o’r rôl sydd ganddi ond roedd yn braf cael y cyfle i wneud cyfweliad ffug a chael ychydig o awgrymiadau i fy helpu pan fydd gen i gyfweliad yn y dyfodol agos.”

Roedd Tia Carter, 15, o Fangor yn chwilio am fwy o wybodaeth ar sut i gael gyrfa o fewn y sector gofal cymdeithasol.

Dywedodd: “Rydw i eisiau helpu pobl ac mae gen i ddiddordeb mewn nyrsio neu mewn rôl gofalu yng Ngogledd Cymru, felly roedd yn wych cael clywed am y cyfleoedd nyrsio sydd ar gael o fewn y bwrdd iechyd.”

Dywedodd Neil Worthington, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Friars, fod y digwyddiadau wedi bod yn llwyddiant ac o fudd mawr i’r disgyblion a fynychodd.

Dywedodd: “Gyda help a chymorth sefydliadau megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, rydym wedi gallu cynnal ein rhaglen cyfweliad ffug yn llwyddiannus ar gyfer 2023. Mae hyn wedi galluogi grwpiau o ddysgwyr ym mlynyddoedd 10-13 i fagu hyder ac i fyfyrio ynghylch eu perfformiad gydag adborth adeiladol er mwyn eu helpu i wella eu sgiliau cyfweld.

“Mae’r cyfweliadau ffug hefyd wedi helpu’r dysgwyr hynny i leihau eu straen a’u pryder ynghylch y broses gyfweld ei hun. Diolch yn fawr unwaith eto i’r bwrdd iechyd am eu cymorth parhaus.”