Neidio i'r prif gynnwy

Dewch i gwrdd â'r tîm sy'n darparu cefnogaeth sy'n 'newid bywyd' i bobl ddigartref sy'n byw gyda hepatitis C.

Mae rhaglen driniaeth gyflym a ddarperir gan staff y GIG yn cael effaith sy'n ‘newid bywyd’ ar bobl ddigartref yng Ngogledd Ddwyrain Cymru sy’n byw gyda firws hepatitis C.

Dywed y rhai sydd wedi elwa o raglen driniaeth newydd arloesol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei bod wedi eu helpu i adennill mynediad at eu plant, cofleidio aelodau’r teulu eto, ac ailymuno â byd gwaith.

Mae hepatitis C yn firws a gludir yn y gwaed, ac os na chaiff ei drin, gall achosi sirosis a chanser yr iau. Fodd bynnag, mae datblygiadau mewn meddygaeth wedi sicrhau y gellir ei drin yn llwyddiannus gyda chwrs tabledi 8 i 12 wythnos. 

Mae'r firws yn effeithio'n anghymesur ar y gymuned ddigartref. Oherwydd eu bod yn aml yn ei chael hi'n anodd cyrchu triniaeth ac ymgysylltu â hynny, gall y rhai sy'n dal hepatitis C fod mewn perygl o gael cymhlethdodau tymor hir, gan gynnwys canser yr iau.

Yn benderfynol o newid hyn, mae staff o wasanaethau Fferyllfa, Pwynt Gofal, Lleihau Niwed Cam-drin Sylweddau a Hepatoleg BIPBC wedi cyflwyno dull newydd arloesol o gynnig triniaeth, sef y cyntaf o'i bath yng Nghymru.

Trwy fynd â'u gwasanaethau at bobl ddigartref, mae'r tîm wedi lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i wneud diagnosis a dechrau triniaeth o dros chwe mis i ddim ond pythefnos.

Mae profion cyflym, rheolaidd yn cael eu cynnig, gyda chanlyniadau ar gael mewn llai nag awr, diolch i'r defnydd o offer arbenigol, sy'n defnyddio technoleg newydd.  Yna darperir triniaeth yn ddi-oed, a darperir cefnogaeth gorfforol a seicolegol ddwys drwyddi draw.

Sefydlwyd y prosiect â grant gan Gilead Sciences Europe Ltd yn 2019. Ers hynny, mae 32 o bobl wedi cwblhau triniaeth yn llwyddiannus, gyda chanlyniadau sy'n newid bywyd.

Mae Catrin* yn un o'r rhai sy'n cael eu cefnogi, a dywedodd:  “O'r diwedd, gallaf gofleidio fy nheulu; rwyf wedi osgoi unrhyw gyswllt corfforol â phobl oherwydd roeddwn i'n teimlo'n fudr.  Gwnaeth y mynediad hawdd at wasanaethau y byd o wahaniaeth i mi.”

Un arall o'r rhai sydd wedi elwa yw Tommy*, a ddywedodd: “Ar ôl byw gyda'r salwch hwn am nifer o flynyddoedd, rydw i bellach yn ddibryder.  Erbyn hyn, rydw i wedi adennill fy nhrwydded yrru ac rydw i'n gweithio fel gweithiwr daear.  Dyma fy swydd gyntaf mewn deng mlynedd, mae fy hyder wedi dychwelyd ac rwy'n barod i symud ymlaen.”

Dywedodd Seb * fod y driniaeth wedi newid ei fywyd: “Am y tro cyntaf ers dros bum mlynedd, rydw i nawr yn gallu gweld fy mhlant eto.  Roedd fy mhartner yn fy ystyried yn fudr ac nid oedd yn caniatáu mynediad imi.  Mae'r driniaeth hon wedi newid fy mywyd.”

*Newidiwyd enwau go iawn i amddiffyn eu hunaniaeth.

Yn ogystal â helpu pobl i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn, mae disgwyl i ymdrechion y tîm sicrhau arbedion sylweddol i’r GIG, gan fod cost darparu triniaeth gynnar yn sylweddol is na chost trin ei gymhlethdodau tymor hwy.

Yn ddiweddar, enwyd y tîm yn enillwyr y wobr ‘Gwella Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus’ yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru, i gydnabod eu gwaith arloesol.

Dywedodd Graham Boyle, Uwch Nyrs Arbenigol gyda Thîm Lleihau Niwed Camddefnyddio Sylweddau BIPBC: “Trosglwyddir hepatitis C trwy gyswllt uniongyrchol â gwaed heintiedig ac nid trwy ryngweithio bob dydd â phobl eraill.  Fodd bynnag, oherwydd y stigma sy'n gysylltiedig â'r firws, mae rhai o'r bobl sydd wedi'u heintio wedi ymddieithrio oddi wrth ffrindiau ac anwyliaid.

“Mae'r prosiect hwn wedi cael effaith sy'n newid bywyd ar y defnyddwyr gwasanaeth yr ydym yn eu cefnogi.  Mae wedi lleihau stigma, aduno teuluoedd, wedi arwain at ymgysylltiad pellach â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ynghyd â lleihau trosglwyddiad hepatitis C a datblygiad afiechydon yr iau, gan gynnwys canser.

“Rydym yn falch iawn o'r gwaith a wnaed hyd yn hyn a'n ffocws nawr yw sicrhau y gallwn gyflwyno'r gefnogaeth hon yn ehangach ledled Gogledd Cymru.”