Neidio i'r prif gynnwy

Deintydd yn addo 'ei weld drwodd i'r diwedd' ar ôl camu i mewn i drin cleifion GIG ym Mae Colwyn

21/10/21

Mae deintydd a ddadwreiddiodd ei deulu i wneud yn siŵr fod cleifion GIG yng Ngogledd Cymru yn derbyn y driniaeth sydd ei hangen arnynt yn dweud ei fod yn bwriadu “ei weld drwodd i’r diwedd”.

Cymerodd Dr Mostafa Hassaan drosodd ddeintyddfa Eirlys ar Princes Drive, Bae Colwyn ym mis Chwefror.

Rhoddodd y cyn-ddarparwr gwasanaethau rybudd y byddai’n terfynu ei gytundeb ar gyfer deintyddfa Bae Colwyn ac un arall yng Nghaernarfon ym mis Tachwedd y llynedd.

Golygodd fod o gwmpas 15,000 o gleifion GIG yn poeni y byddant yn colli mynediad at wasanaethau deintyddol lleol a chychwynnwyd ymgyrchoedd yn lleol i adfer gwasanaethau, er gwaethaf sicrwydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddai darparwr arall yn cael ei ddarganfod.

Cymerodd darparwr newydd drosodd yn ffurfiol ym mis Chwefror pan arwyddwyd cytundeb gyda Deintyddfa Eirlys i wasanaethu’r safleoedd ym Mae Colwyn a Chaernarfon.

Mae’r cwmni, a oedd wedi bod yn gweithredu o hen adeilad Neuadd y Sir yn Nolgellau am y tair blynedd diwethaf, yn berchen i Dr Hassaan.

Meddai: “Roeddwn i wedi cyffroi i fod yn cymryd drosodd y ddeintyddfa.  Pan ddaeth y deintyddfeydd ym Mae Colwyn a Chaernarfon ar gael meddyliais ‘dyma’n union yr ydw i wedi’i wneud o’r blaen.”

Fodd bynnag, darganfu fod yr adeiladau angen eu huwchraddio, ac o dan reolau newydd ar gyfer deintyddfeydd, ni allai gwblhau gweithdrefnau sy’n cynhyrchu erosolau (AGP) nes byddai system awyru soffistigedig yn cael ei arsefydlu.

“Roedd y deintyddfeydd angen buddsoddiad,” meddai.  “Rydym ni wedi newid y system awyru (am gost o fwy na £13,000) ac wedi gostwng yr amser rhwng apwyntiadau.

“Rydym wedi gwneud buddsoddiad o £300,000 ar offer a chynnal a chadw – popeth sydd gan fy nheulu a  mwy.”

Y prif ffocws oedd torri i lawr ar y rhestr aros anferth ar gyfer triniaethau oedd wedi cronni cyn ac yn ystod y pandemig Covid.

Mae’r tîm wedi cwblhau o gwmpas 5,000 o apwyntiadau ers mis Ebrill, gyda 60% ohonynt yn achosion brys.

O’r rheiny, roedd 10 ohonynt yn rhai coch neu ambr – gan gyflwyno gyda’r risg a’r angen uchaf  mwyaf difrifol.

“Rydym yn ceisio helpu pobl sydd ddim wedi cael eu gweld ers blynyddoedd,” meddai Dr Hassaan, 38. “Mae rheoliadau yn golygu ein bod yn gweithio ar gyflymder arafach na chyn y pandemig ond rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weld gymaint o gleifion â phosib.

“Ym Mae Colwyn rydym wedi cwblhau 5,000 o driniaethau sy’n golygu fod pawb sydd mewn poen wedi cael eu trin, ac mae hynny’n rhywbeth rydw i’n falch iawn ohono.

“Mae ôl-groniad mawr o hyd ac rydym yn blaenoriaethu cleifion yn ôl angen clinigol ond nid yw hynny’n golygu na ddylech ein ffonio os ydych mewn poen neu anghysur.

“Fodd bynnag, rhaid derbyn fod staff yn gweithio mor galed ag y gallent o dan amgylchiadau anodd iawn ac fe wnânt eich cyrraedd.  Felly byddwch yn amyneddgar pan fyddwch yn ein ffonio.”

Cwblhaodd Dr Hassaan ei Fagloriaeth mewn Gwyddorau Deintyddol a Llawfeddygaeth Geneuol yn 2008 ac aeth ymlaen i gwblhau ei Aelodaeth o Goleg Brenhinol Llawfeddygon Caeredin (MFDS).  

Mae o’n aelod o’r Gymdeithas Deintyddol Prydeinig ac yn aelod llawn o Academi Brydeinig Deintyddiaeth Gosmetig.

Mae Dr Hassaan wedi tiwtora ar gyfer yr Arholiad Cofrestru Dramor (ORE) a Thrwydded mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol yng Ngholeg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr a Chyrsiau sgiliau clinigol arweiniol eraill yn y DU.’

Wedi bod yn gyfarwyddwr clinigol cynorthwyol ar gyfer grŵp practis yn gweithio o gwmpas Llundain, gwelodd y cyfle yn Nolgellau mwy na thair blynedd yn ôl a chymerodd y penderfyniad i symud ei wraig a dau o blant i Ogledd Cymru.

Mae’n benderfyniad na wnaeth ddifaru, yn bennaf oherwydd y gwahaniaethau o weithio o fewn system Cymru a’r bywyd awyr agored y mae wedi gallu ei ddilyn.

Meddai: “Yng Nghymru, mae’r agwedd yn wahanol iawn i Loegr.  Rwy’n teimlo bod mwy o gefnogaeth yn y system yma ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n parhau.  Rydym yn lwcus iawn iawn i fod yma lle mae 'na ymdeimlad o gydweithio.

“Mae yna lawer yn ymadael i’r gwasanaeth preifat yn y maes deintyddol (yn bennaf yn Lloger) ond gyda’r model yr ydym ni wedi’i ddatblygu a chyda chefnogaeth barhaus byddwn yma i’n cleifion am ddegawdau i ddod.

“Ni allwn fforddio colli mwy o ymarferwyr GIG na deintyddfeydd nawr, ac fel cwmni, ein hased mwyaf gwerthfawr yw’r bobl sy’n ei gadw i fynd ac sy’n gofalu am ein cleifion a’u cadw allan o boen.

“Mae fy nheulu wedi bwrw gwreiddiau yma yng Nghymru ac rydym yn bwriadu aros yma.”