Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun peilot talebau i gynnig cymorth ychwanegol i famau beichiog o ran rhoi'r gorau i ysmygu

Medi 30, 2022

Cynigir mwy o gymorth i ferched beichiog sy'n ymysgu i roi'r gorau iddi fel rhan o gynllun peilot cymhelliant sy'n cael ei lansio yn Sir Ddinbych. 

Bydd darpar famau'n derbyn talebau siopa os byddant yn ymrwymo i roi'r gorau i ysmygu ac os ydynt yn gallu profi eu bod wedi aros yn ddi-fwg.  

Caiff cyfanswm o £300 mewn talebau eu hanfon at gyfranogwyr pan fyddant yn cyrraedd cerrig milltir di-fwg yn ystod eu beichiogrwydd ac ar ei ôl. Caiff £100 arall mewn talebau eu hanfon at bartner neu gefnogwr enwebedig arall.

Bydd merched beichiog o fewn cod post Sir Ddinbych yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y cynllun gan eu bydwraig gymunedol. 

Os byddant yn cytuno i wneud hynny, byddant hefyd yn derbyn 12 wythnos o therapïau disodli nicotin am ddim fel patsys nicotin, gwm neu chwistrell gan Helpa Fi i Stopio - yn ogystal â chymorth personol dwys a pharhaus gan ymgynghorydd penodol Helpa Fi i Stopio. 

Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Betsi Cadwaladr: "Ysmygu yw'r achos mwyaf o salwch y gellid ei osgoi a marwolaeth gynamserol yng Nghymru - ac rydym yn gwybod bod ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn cynyddu'r risg o gymhlethdodau, gan gynnwys pwysau isel ar adeg geni, geni cynamserol a marw-enedigaeth.

"Rydym yn awyddus i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu merched beichiog i roi'r gorau iddi, ac i amddiffyn iechyd a lles babanod newydd a'u teuluoedd.

"Profwyd bod yr ymagwedd strwythuredig hon ar sail cymhelliant yn gweithio. Rydym yn edrych ymlaen at ei defnyddio i gynorthwyo mwy o ferched beichiog i roi'r gorau i ysmygu yn Sir Ddinbych dros y chwe mis nesaf."

 

Bydd angen i ferched gymryd profion carbon monocsid yn rheolaidd er mwyn profi eu bod yn dal i fod yn ddi-fwg. Caiff y swm llawn ei dalu dim ond os yw cyfranogwyr yn parhau i beidio ysmygu dri mis yn dilyn genedigaeth eu babi.  

Mae cynlluniau cymorth tebyg wedi'u hen sefydlu yn Lloegr, a dangoswyd eu bod yn gwella cyfraddau rhoi'r gorau iddi am chwe mis neu fwy o 50% ac i greu elw ar fuddsoddiad o £4 am bob £1 sy'n cael ei gwario. Mae pobl sy'n rhoi'r gorau i ysmygu gyda chymorth cynlluniau cymhelliant hefyd yn fwy tebygol o barhau i fod yn ddi-fwg. 

Argymhellir defnyddio talebau i helpu i annog a chynorthwyo merched beichiog i roi'r gorau i ysmygu gan NICE, y corff sy'n rhoi canllawiau ar driniaeth feddygol yn y DU. 

Ni ellir defnyddio'r talebau ar-lein i brynu cynhyrchion sy'n niweidiol i'r plentyn heb ei eni, gan gynnwys sigarets ac alcohol. 

Ar draws Cymru, mae mwy nag un ym mhob chwech o ferched beichiog yn cael eu cofnodi fel ysmygwyr yn eu hapwyntiad cyntaf gyda bydwraig gymunedol. 

Hwn i'r tro cyntaf i gynllun cymorth tebyg gael ei ddefnyddio yng Nghymru. Caiff y prosiect peilot ei gynnal a'i ariannu gan Raglen Atal a Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru, a bydd yn weithredol am chwe mis cyn cael ei werthuso'n llawn. 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Lles, Lynne Neagle, “Rwy’n llwyr gefnogi mentrau sydd â’r nod o leihau ymysgu yn ystod beichiogrwydd. Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i Gymru fod yn ddi-fwg erbyn 2030 ac mae’n awyddus i gynorthwyo’r holl blant a phobl ifanc yng Nghymru i gael plentyndod di-fwg.”