Neidio i'r prif gynnwy

Clinig Enfys Newydd yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i rieni sydd wedi dioddef colled

13/10/2022

Gall darpar rieni sydd wedi dioddef camesgoriad hwyr, marw-enedigaeth neu farwolaeth newydd-enedigol gynnar mewn beichiogrwydd blaenorol gael mynediad erbyn hyn at gefnogaeth ychwanegol mewn dau Glinig Enfys newydd.

Mae'r clinigau yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd yn anelu at leihau’r pryder a brofir gan rieni mewn profedigaeth pan fyddant yn cychwyn ar eu 'Beichiogrwydd Enfys' wedi colled flaenorol.

Caiff Clinig Enfys Ysbyty Maelor Wrecsam ei arwain gan Dr Ruth Roberts, Obstetregydd Ymgynghorol, a Lucy Dobbins, Bydwraig Profedigaeth Arbenigol.

Dywedodd Lucy: "Ni all dim newid y profiad torcalonnus o golli babi, ond fel tîm rydym yn deall bod darparu rhieni gydag amgylchedd diogel lle y byddant yn derbyn gwiriadau cyn-geni cynyddol, gofal parhaus, cyngor cyson gan un gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a mynediad agored i wasanaethau mamolaeth, gallwn helpu i leihau’r pryder a gwella lles meddyliol cyffredinol trwy gydol y beichiogrwydd hwn.

“Pan aiff rhieni ymlaen i gael plentyn arall ar ôl colled, mae'n gyfnod o straen garw ac maen nhw'n llawn pryder, felly gall y lefel uchel o ofal cyson a'r gefnogaeth arbenigol ychwanegol yma leihau lefelau eu pryder a gwella eu hiechyd a'u lles yn gyffredinol.”

Gall rhieni gael eu cyfeirio i'r clinig gan eu bydwraig gymunedol, neu gall unrhyw un yn yr ardal sydd wedi dioddef marw-enedigaeth, camesgoriad yn eu hail drimester neu farwolaeth newydd-enedigol gynnar mewn beichiogrwydd blaenorol gysylltu â'r clinig yn uniongyrchol.

Dywedodd Sarah Griffiths, Bydwraig Profedigaeth Arbenigol i Ysbyty Gwynedd: "Rydym yn cynnig mynediad rhwydd i'r clinigau Enfys, fel nad oes rhaid i rieni aros i weld eu bydwraig trwy apwyntiad penodol, os ydyn nhw'n teimlo'n bryderus neu â chonsyrn am unrhyw elfen, neu ddim ond angen peth sicrwydd y gallant gysylltu â'r clinig i ddod i mewn am wiriad cyn-geni a sgan.

“Rydym eisiau sicrhau teuluoedd sy'n bryderus am resymau dilys, ac mae hyn mor bwysig ein bod yn cydnabod mai nid yn unig iechyd corfforol sydd o bwys yn ystod beichiogrwydd, mae hefyd yn ymwneud â lles meddyliol a chorfforol yn ogystal. Rydym yma i'w cefnogi nhw trwy hynny, fel pan fyddan nhw'n rhoi genedigaeth eto, y byddan nhw'n barod ac yn gwybod y byddan nhw'n derbyn cefnogaeth ychwanegol.”

Mae pob un o'r tri ysbyty acíwt yng Ngogledd Cymru hefyd yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod (Hydref 9fed-15fed) gydag arddangosfeydd a stondinau amrywiol i godi ymwybyddiaeth, yn ogystal â goleuo Ysbyty Maelor Wrecsam yn binc a glas mewn cefnogaeth i unrhyw un sydd wedi ei effeithio gan golli beichiogrwydd a babi.

Bydd Ysbyty Glan Clwyd hefyd yn agor Clinig Enfys y flwyddyn nesaf.

Gellir cysylltu'n uniongyrchol â Chlinig Enfys Maelor Wrecsam trwy'r rhif clinig cyn-geni 03000 847474, a gellir cysylltu ag Ysbyty Gwynedd trwy 07799342093 neu 01248 363521.