Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion i gael eu gweld a'u trin yn gyflymach diolch i gyllid newydd

21/07/2022

Caiff cleifion gyda phroblemau stumog a pherfeddol eu gweld yn gyflymach yn dilyn lansiad clinig Gastroenteroleg yn Sir y Fflint a Wrecsam.

Dan arweiniad dietegwyr, bydd y clinig yn gweld, gwneud diagnosis a thrin cleifion nad ydynt yn achosion brys a disgwylir iddo gynorthwyo i leihau amseroedd aros cyffredinol.

Gelwir y prosiect, a gaiff ei gyllido am flwyddyn gan Raglen Arloesedd Gofal wedi’i Gynllunio Comisiwn Bevan, yn glinig Cyswllt Cyntaf Uwch Ymarferydd Clinigol (ACP) Gastroenteroleg o dan arweiniad dietegydd, sy'n golygu y gall cleifion â phroblemau perfedd nad ydynt yn achosion brys gael eu cyfeirio yn uniongyrchol at Ddietegydd Gastroenteroleg ACP am asesiad cychwynnol, diagnosteg a rheolaeth.

Dywedodd Jeanette Starkey, Dietegydd Gastroenteroleg, Uwch Ymarferydd Clinigol ac Arweinydd Clinigol: "Rydym wedi adolygu'r cymysgedd sgiliau o fewn yr adran gastroenteroleg, ac yn seiliedig ar waith blaenorol, wedi gweld trwy ddefnyddio sgiliau dietegydd sy’n uwch ymarferydd clinigol ym maes gastroenteroleg y gallwn wella ein gwasanaethau cleifion allanol yn sylweddol.

“Mae hwn yn llwybr symlach, mwy diogel ac effeithiol i gleifion â materion perfedd nad ydynt yn achosion brys.”

Caiff cleifion sy’n cael eu cyfeirio at wasanaeth gastroenteroleg ysbyty acíwt eu hasesu gan feddygon ymgynghorol gastroenteroleg a chaiff y rheiny a nodir bod ganddynt broblemau tebygol o ran gweithrediad y perfedd eu cyfeirio yn uniongyrchol at ACP. Mae'r gwasanaeth yn anelu at leihau’r rhestr aros ar gyfer cleifion gastroenteroleg nad ydynt yn achosion brys, a bydd yn galluogi meddygon ymgynghorol i weld cleifion brys neu fwy cymhleth yn fwy amserol gan leihau'r risg o dderbyn i’r ysbyty a gwella cynlluniau rheoli i'r claf.

Mae clinigau Dietegydd Cyswllt Cyntaf wythnosol newydd wedi eu sefydlu i weld cleifion newydd a mynd i'r afael â'r rhestr aros gyfredol. Mae'r clinigau ar hyn o bryd yn Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug, Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy, Ysbyty Maelor Wrecsam a Meddygfa Parc Caia.

Cyflwynwyd clinig Syndrom Coluddyn Llidus (IBS) tebyg yn llwyddiannus yn 2017-1019, a arweinwyd gan ddietegwyr, a byddai meddygon teulu yn cyfeirio cleifion atynt. Arweiniodd y clinig at ostyngiad o 27% yn nifer y cleifion rhwng 16-50 oed, a gyfeirwyd gan feddygon teulu at ofal eilaidd a gostyngiad o 40% mewn cyfeiriadau cleifion â symptomau math IBS yng ngrŵp oedran 16-50, a gyfeirwyd gan feddygon teulu at ofal gastroenteroleg eilaidd.

Gwelodd y clinig IBS dan arweiniad dieteteg bod 91% o gleifion a welwyd wedi eu rhyddhau heb gymorth meddyg ymgynghorol gastroenteroleg, bod 61% o gleifion wedi lleihau meddyginiaethau neu eu bod wedi rhoi’r gorau i’w cymryd a bod 80% o gleifion gyda symptomau wedi gwella ar ôl ymyriad dietetig.

Ychwanegodd Jeanette: “Rydym yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant y clinig IBS dan arweiniad dieteteg a darparu llwybrau cyfeirio a rheoli amserol, diogel ac effeithiol

amgen i gleifion â thrafferthion o ran gweithrediad y perfedd. Trwy ddefnyddio adnoddau sydd ar gael i ni mewn dull amgen bydd yn ein helpu ni i gwrdd ag anghenion cleifion a gwella eu profiad o achos a gwasanaeth."

Caiff y prosiect ei gyllido gan Raglen Arloesedd Gofal wedi’i Gomisiynu Comisiwn Bevan, a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ehangach. Cyflwynwyd y rhaglen i leddfu’r pwysau ar wasanaethau oherwydd y pandemig COVID-19 a arweiniodd at oedi o ran darpariaeth gwasanaeth gofal wedi ei gynllunio ar draws Cymru, gan greu cynnydd mewn amseroedd aros.