Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion i gael budd wrth i Ysbyty Maelor Wrecsam gael ei ehangu at y parc technoleg

22.08.2022

Bydd cleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn cael budd o adeilad pwrpasol newydd i gleifion allanol gan fod Plas Gororau, sydd wedi'i leoli ym Mharc Technoleg Wrecsam, wedi cael ei brynu. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi prynu'r adeilad, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, i symud gwasanaethau cleifion allanol ac i ehangu'r Adran Achosion Brys a mannau clinigol ar brif safle'r ysbyty. 

Bydd rhai gwasanaethau cleifion allanol sydd yn y prif ysbyty ar hyn o bryd yn symud i adeilad Tŷ Derbyn, sydd o fewn tiroedd yr ysbyty, a chaiff gwasanaethau sydd wedi'u lleoli ar hyn o bryd yn Nhŷ Derbyn, lle nad oes angen canolfan acíwt, eu symud i Blas Gororau. 

Mae Plas Gororau yn adeilad 44,186 troedfedd sgwâr ar y parc technoleg gyda 212 o leoedd parcio ceir, a gellir ei gyrraedd mewn chwe munud ar droed o brif fynedfa'r ysbyty. 

Mae gwasanaethau sy'n symud i Blas Gororau yn cynnwys iechyd meddwl i gleifion allanol, clinigau therapi orthopaedig, rhagsefydlu, iechyd rhyw i gleifion allanol, cyfleuster ymchwil glinigol ac Uned Academaidd Gwyddorau Meddygol a Llawfeddygol Ysbyty Maelor. 

Disgwylir i Blas Gororau agor ar ddechrau 2023, a chaiff gwasanaethau eu symud fesul cam a bydd cleifion allanol ym maes iechyd meddwl yn symud gyntaf. Unwaith y bydd cleifion allanol iechyd meddwl wedi symud i Blas Gororau, bydd rhan o'r brif ardal i gleifion allanol, sydd yn ymyl yr Adran Achosion Brys ar hyn o bryd, yn adleoli i’r man iechyd meddwl gwag gan ganiatáu i'r Adran Achosion Brys ehangu i roi cymorth gyda phwysau'r gaeaf. 

Caiff Uned Mân Anafiadau (MIU) ei sefydlu yn y man gwag ger yr Adran Achosion Brys. Caiff ei chyflwyno ar y cyd â'r Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys (UPCC). Bydd yr MIU yn trin anafiadau nad ydynt yn gritigol neu'n bygwth bywyd, gan helpu i leddfu pwysau ar Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor, gan ategu'r gwasanaeth a ddarperir gan UPCC. 

Dywedodd Hazel Davies, Cyfarwyddwr Safle Acíwt Ysbyty Maelor Wrecsam: "Mae hwn yn waith cyffrous iawn a fydd o fudd mawr i'n cleifion a'r gymuned leol. Bydd Plas Gororau yn fwy hwylus o lawer i bobl sy'n manteisio ar y gwasanaethau a gaiff eu lleoli yno, gan na fydd angen iddynt ddod i'r prif ysbyty mwyach. At hynny, mae gan yr adeilad ei faes parcio pwrpasol ei hun ar gyfer cleifion a staff. 

"Bydd ad-drefnu rhai o'n gwasanaethau a'n hadrannau'n helpu gyda'r llwybrau ar gyfer ein cleifion ac yn lleddfu pwysau ar draws yr ysbyty. Mae hyn hefyd yn rhoi mwy o le i ni yn y prif ysbyty i ehangu ein Hadran Achosion Brys i gynnwys yr ardal flaenorol i Gleifion Allanol a bydd yn helpu i leddfu'r pwysau yn ystod cyfnodau brig yn yr adran wrth i ni esblygu ein strategaeth i gyflwyno Canolfan Gofal Brys ar y safle, wedi'i leoli ochr yn ochr â Gofal Brys traddodiadol." 

Yn ogystal, mae'r ysbyty hefyd yn adeiladu canolfan frechu bwrpasol ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru o fewn Plas Gororau. 

Wrth i'r cynlluniau barhau i gael eu datblygu, bydd y Bwrdd Iechyd yn cyfleu unrhyw ddiweddariadau pellach i gleifion a'r gymuned. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: "Mae'n wych bod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu cyllid i helpu Ysbyty Maelor i ehangu ei wasanaethau. Bydd yr adeilad newydd i gleifion allanol o fudd enfawr i gleifion a'r gymuned trwy gael dylanwad positif ar brofiad cleifion, lleihau amseroedd aros ar gyfer y rhai sy'n aros am apwyntiadau, rhyddhau capasiti yn yr Adran Achosion Brys a helpu i leddfu pwysau ar yr ysbyty. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r safle newydd pan fydd yn agor.