Neidio i'r prif gynnwy

Angen gwirfoddolwyr yn Wrecsam ar gyfer astudiaeth brechlyn atgyfnerthu COVID-19 newydd

18/01/2022

Mae angen gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn astudiaeth brechlyn atgyfnerthu COVID-19 newydd yn Wrecsam.

Mae ymchwilwyr yn edrych i weld a yw dos rhannol o drydydd dos cymeradwy (dos atgyfnerthu) yn effeithiol ac yn ddiogel mewn oedolion ifanc.

Mae’r astudiaeth (COV-Boost) yn cael ei chynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac yn cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Athrofaol Southampton.

Mae gan oedolion ifanc ymateb imiwn cryfach i frechlynnau nag oedolion hŷn, ac mae canlyniadau astudiaethau brechlyn COVID-19 wedi awgrymu y gallai dosau is o'r brechlynnau Pfizer neu Moderna COVID-19 roi ymateb imiwn cystal mewn oedolion ifanc â dosau uwch. Gall dosau is hefyd fod yn gysylltiedig â llai o sgîl-effeithiau neu gyfraddau is o ddigwyddiadau andwyol sydd eisoes yn brin.

Gallai defnyddio dosau is ganiatáu i’r stociau presennol o frechlynnau gael eu rhoi i fwy o bobl, sy’n bwysig tra bod yr angen am frechlynnau yn fwy na nifer y dosau sydd ar gael yn fyd-eang.

Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu dewis ar hap yn yr astudiaeth i dderbyn naill ai dosau llawn neu ran-ddos o'r brechlynnau Pfizer neu Moderna ac yna gofynnir iddynt gadw dyddiadur o symptomau dros y saith diwrnod nesaf.

Bydd sawl apwyntiad dilynol hefyd i fonitro ymateb imiwn ac i wirio iechyd gwirfoddolwyr.

I fod yn gymwys i gymryd rhan, mae angen i wirfoddolwyr:

  • fod yn 18-30 oed
  • wedi derbyn 2 ddos o Pfizer neu Moderna a bod o leiaf 3 mis (84 diwrnod) wedi pasio ers eu hail ddos
  • heb gael brechlyn atgyfnerthu eto.

Bydd tîm yr astudiaeth yn rhoi ad-daliad o hyd at £225 i gyfranogwyr am eu hamser, anghyfleustra a theithio.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy ac ymuno ymweld â gwefan yr astudiaeth: https://www.covboost.org.uk/participate-wrexham-substudy.

Dywedodd Dr Orod Osanlou, Meddyg Ymgynghorol a Phrif Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r astudiaeth COV-Boost: “Rydyn ni'n gwybod bod gan oedolion ifanc ymateb imiwn cryfach i frechlynnau nag oedolion hŷn, ac mae canlyniadau ymchwil brechlyn COVID-19 blaenorol yn awgrymu y gallai dosau is fod yr un mor effeithiol â dosau uwch.

“Gallai hyn hefyd olygu llai o sgîl-effeithiau i oedolion ifanc a gallai ganiatáu i’r stociau presennol o frechlynnau gael eu rhoi i fwy o bobl.”

Dywedodd Dr Chris Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Gallai cymryd rhan yn yr astudiaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Mae’r holl wybodaeth a gasglwn drwy ymchwil yn helpu i lywio’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru.

“Bydd data pellach yn ein helpu i ddeall y ffordd orau o amddiffyn pobl nawr ac yn y dyfodol.”

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae'n bwysig ein bod yn parhau i ddarganfod cymaint â phosibl am y defnydd effeithiol o frechlynnau COVID-19 trwy astudiaethau ymchwil fel COV-Boost.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr sydd eisoes wedi cyfrannu at ein hymchwil brechlyn ac yn gobeithio y bydd eraill nawr yn camu ymlaen i helpu.”