Neidio i'r prif gynnwy

Uned Rhiwmatoleg

  • Mae'r Uned Rhiwmatoleg yn darparu clinigau arbenigol gan gynnwys clinig arthritis llidiol â mynediad cynnar, clinig ar gyfer poen cefn llidiol, afiechyd â meinweoedd cysylltiol a chlinig fasgwlitis a chlinig resbiradol cyfunol.
  • Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu gwybodaeth ac arweiniad i roi cymorth i chi gyda'ch triniaeth. Mae gennym dîm pwrpasol o feddygon, nyrsys, fferyllydd, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion yn ogystal â mynediad i bodiatreg.
  • Gall cleifion ddewis gael monitro eu gwaed fel rhan o’u triniaeth yn eu meddygfa leol. Mae’r gwasanaeth yn cynnig apwyntiadau dilynol er mwyn sicrhau nad yw cyflwr claf wedi newid. Os bydd unrhyw newidiadau i’w gyflwr, caiff claf ei weld gan feddyg. Gall cleifion gysylltu â llinell gyngor yr Uned Rhiwmatoleg am gyngor os bydd unrhyw newidiadau i’w cyflwr rhwng apwyntiadau.