Neidio i'r prif gynnwy

Uned Esgyrn a Gwasanaeth Osteoporosis Gogledd Cymru

  • Mae Uned Esgyrn a Gwasanaeth Osteoporosis Gogledd Cymru yn rhoi cymorth i gleifion sydd wedi torri asgwrn. Mae'r nyrsys Osteoporosis yn cofnodi data am doresgyrn bob wythnos o Adrannau Achosion Brys, wardiau Orthopaedig a chlinigau toresgyrn i gleifion allanol er mwyn canfod yr holl gleifion dros 50 oed sydd wedi torri asgwrn. 
  • Gall cleifion gysylltu â llinell gymorth Uned Esgyrn a Gwasanaeth Osteoporosis ar 03000 850051 (pwyswch opsiwn 5) i drafod triniaeth, therapïau ac ymholiadau eraill.
  • Mae'r Meddygon Ymgynghorol Esgyrn Metabolig yn cynnal clinig esgyrn metabolig bob wythnos i asesu cleifion sydd ag osteoporosis difrifol ac ystod o afiechydon yr esgyrn metabolig fel clefyd Paget, osteomalasia ac osteogenesis imperfecta. 
  • Mae'r Uned Esgyrn ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn yr ystafelloedd Therapi Mewnwythiennol/Ward Tudno lle bydd cleifion yn derbyn therapïau ar gyfer osteoporosis.