Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Anhwylderau Symud

  • Cymorth gan y Gwasanaeth Anhwylderau Symud gyda chyflyrau niwrolegol fel cryndod, clefyd Parkinson, Cryndod Hanfodol Anfalaen a Dystonia. Mae clinig wythnosol ar gyfer y rhai sydd â'r cyflyrau hyn dan arweiniad Geriatregydd Ymgynghorol.
  • Mae Nyrs Arbenigol Clefyd Parkinson a Therapydd Iaith a Lleferydd ar gael i roi cymorth i chi a'ch cyfeirio at Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Codymau, Gwasanaethau Cymdeithasol a'r trydydd sector.
  • Mae'r gwasanaeth hefyd ynghlwm wrth astudiaethau ymchwil clinigol, fel bod pobl sy'n byw gydag anhwylderau symud sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn ymchwil yn cael y cyfle i wneud hynny trwy'r clinig.