Neidio i'r prif gynnwy

Syr Paul Lambert, Aelod Annibynnol

Cyfnod yn y rôl: Hydref 2025 - Hydref 2029. 

Ymddeolodd Syr Paul Lambert yn 2022 ar ôl treulio dros naw mlynedd yn Ysgrifennydd Cyffredinol (Prif Swyddog Gweithredol) St John International, y corff cynnal ar gyfer holl sefydliadau Ambiwlans Sant Ioan mewn dros 40 o wledydd ledled y byd. Mae gan y sefydliad hwnnw fwy na 160,000 o wirfoddolwyr sy’n cynnig gwasanaethau sy’n amrywio o Gymorth Cyntaf i Iechyd Mamau.

Cyn hynny, roedd Paul wedi ymddeol ar ôl gyrfa yn y Llynges Frenhinol fel Dirprwy Bennaeth Staff Amddiffyn (Galluogrwydd) ar ôl treulio 38 mlynedd yn y Gwasanaeth.  Roedd yn gyfrifol am y Rhaglen Offer Amddiffyn ac yn atebol i weinidogion am arfogi'r Lluoedd Arfog cyfan.

Yn ystod ei gyfnod yn y Llynges, bu Paul yn Rheolydd y Llynges; bu’n gyfrifol am Wasanaeth Llongau Tanfor y DU; fe wnaeth redeg holl Weithrediadau'r Llynges ledled y byd; a bu’n Gomander Llongau Tanfor a Llongau ar Wyneb y Môr.

Ers deng mlynedd, mae Paul yn byw yng Ngwynedd ac yn ystod mwyafrif y cyfnod hwnnw, mae wedi bod yn Aelod Annibynnol o Brifysgol Bangor.  Mae'n briod ag Enid, Parafeddyg sydd wedi ymddeol ac sydd ar hyn o bryd yn astudio am Radd Nyrsio.

Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym yn falch iawn o groesawu Paul Lambert yn aelod o’r Bwrdd. Bydd ei brofiad helaeth ym meysydd cyllid, llywodraethu ac arweinyddiaeth yn cynnig gwerth mawr i'n sefydliad ac i wasanaethau iechyd a lles ledled gogledd Cymru."