Neidio i'r prif gynnwy

Justine Parry, Prif Swyddog Digidol a Gwybodaeth (CDIO) Dros-dro

Penodwyd Justine Parry yn Gyfarwyddwr Dros Dro ar y Gyfarwyddiaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg ar 8 Rhagfyr 2025. 

Gan ddod â swyddogaethau digidol, deallusrwydd data, cofnodion, diogelwch gwybodaeth a rheoli rhaglenni digidol at ei gilydd, mae'r Gyfarwyddiaeth yn cynorthwyo'r Bwrdd Iechyd i ddatblygu amgylchedd sydd wedi'i alluogi'n ddigidol, gan ddefnyddio data wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau a gwella profiadau poblogaeth Gogledd Cymru.

Mae Justine yn Arbenigwr Diogelu Data cymwys, gyda dros 29 mlynedd o brofiad yn y GIG yng Ngogledd Cymru. Ar ôl treulio’i blynyddoedd cynnar yn Abertawe, ymunodd Justine â'r GIG ym 1996 fel clerc cyfrifiadurol gyda meddygfa yn Wrecsam, cyn symud i Dîm Technoleg Gwybodaeth yr Awdurdod Iechyd ym 1998.  Rhwng 2004 a 2011 roedd hi'n gyfrifol am Lywodraethiant Gwybodaeth a Llywodraethiant Corfforaethol ym Mwrdd Iechyd Lleol Wrecsam a bu'n cefnogi'r Cyfarwyddwr Cyllid ar faterion Llywodraethiant Corfforaethol, Risg a Sicrwydd. 

Mae gan Justine ddiddordeb brwd mewn rheoli systemau a phrosesau. Yn 2011, fe'i penodwyd yn Bennaeth Llywodraethiant Gwybodaeth cyntaf BIPBC a bu'n arwain y gwaith o gasglu a chysoni prosesau Llywodraethiant Gwybodaeth, Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth yr wyth sefydliad a ragflaenodd BIPBC.  Yn 2015 cafodd ei phenodi'n Gyfarwyddwr Cynorthwyol Llywodraethiant Gwybodaeth a Sicrwydd. 

Ar lefel genedlaethol, mae Justine wedi cadeirio Bwrdd Grŵp Rheoli Ymgynghorol Llywodraethiant Gwybodaeth Cymru ac wedi arwain ar ddatblygu system ar gyfer ymatebion cydlynol i’r ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a wneir i nifer o sefydliadau GIG Cymru. Roedd hefyd yn un o'r aelodau a sefydlodd y gwaith ar ddatblygu a gweithredu Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI). 

Mae Justine wedi ymrwymo i ddatblygiad personol yn ogystal â datblygu timau a staff, a thrwy gydol ei gyrfa mae wedi cwblhau ystod eang o hyfforddiant rheoli busnes a chymwysterau arbenigol sy'n berthnasol i'w rôl. 

Y tu allan i'r gwaith, mae hi'n mwynhau amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau awyr agored gyda'i theulu.