Mae Justine yn Arbenigwr Diogelu Data cymwysedig, gyda thros 29 mlynedd o brofiad yn y GIG yng Ngogledd Cymru. Ar ôl treulio'r rhan fwyaf o'i hieuenctid yn Abertawe, ymunodd Justine â'r GIG ym 1996 fel clerc cyfrifiaduron gyda phractis meddyg teulu yn Wrecsam, cyn symud i Dîm TG yr Awdurdod Iechyd ym 1998. Rhwng 2004 a 2011, bu'n gyfrifol am Lywodraethu Gwybodaeth a Llywodraethu Corfforaethol ym Mwrdd Iechyd Lleol Wrecsam a bu'n rhoi cymorth ehangach i'r Cyfarwyddwr Cyllid o ran materion Llywodraethu Corfforaethol, Risg a Sicrwydd.
Mae gan Justine ddiddordeb brwd mewn systemau a rheoli proses ac yn 2011, cafodd ei phenodi yn rôl newydd Pennaeth Llywodraethu Gwybodaeth BIPBC, gan arwain y gwaith o gydlynu a chysoni prosesau Llywodraethu Gwybodaeth, Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth o'r wyth sefydliad rhagflaenol. Yn 2015, cafodd ei phenodi i swydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Llywodraethu Gwybodaeth a Sicrwydd.
Ar lefel genedlaethol, mae Justine wedi cadeirio Bwrdd Grŵp Cynghori ar Reoli Llywodraethu Gwybodaeth Cymru ac mae hi wedi arwain y gwaith o ddatblygu system yn ymwneud â chydlynu ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a wneir i sefydliadau lluosog yn GIG Cymru, yn ogystal â bod yn aelod sefydlu o ran datblygu a gweithredu Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI).
Mae Justine yn ymrwymedig i ddatblygu tîm, staff a hi ei hun, a thrwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi cwblhau ystod eang o ddysgu'n ymwneud â rheoli busnes a chymwysterau arbenigol sy'n berthnasol i'w rolau.