Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarth Tri: Beth ydy ein blaenoriaethau a sut hwyl ydyn ni'n ei chael arni

Mae dosbarth tri yn cynnwys gwybodaeth am: 

Adroddiad blynyddol
Cynllun busnes blynyddol, gan gynnwys comisiynu 
​​​​​Datganiadau answadd blynyddol
Targedau, nodau ac amcanion 
Perfformiad yn ôl targedau/dangosyddion perfformiad allweddol (KPI)/ gwybodaeth rheoli perfformiad
Adroddiadau ansawdd a diogelwch
Datganiadau llywodraethu blynyddol
Asesiadau Caldicott a chynllun gwella
Egwyddorion Caldicott Ar Waith (C-PIP)
Mae'r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Digidol a Llywodraethu Gwybodaeth
Adroddiadau archwilio
Arolygon defnyddwyr gwasanaeth
Asesiadau o'r effaith ar breifatrwydd 

Mae asesiadau o'r effaith ar ddiogelu data (DPIAs) yn ffordd o helpu sefydliadau i ddod o hyd i'r ffordd fwyaf effeithiol o gydymffurfio â'u dyletswyddau diogelu data a diwallu disgwyliadau unigolion o ran preifatrwydd. Maen nhw'n gallu bod yn rhan ganolog o feddwl am breifatrwydd o'r cychwyn cyntaf. 

Mae'r Rheoliad Cyffredinol newydd ar Ddiogelu Data (GDPR) yn nodi'r amgylchiadau pan fydd yn rhaid cynnal DPIA. 

Bydd DPIA effeithiol yn galluogi sefydliadau i adnabod a datrys problemau'n gynnar, gan leihau'r costau cysylltiedig a'r difrod i enw da a allai ddigwydd fel arall.  

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef rheoleiddiwr y DU ar gyfer deddfwriaeth Diogelu Data, yn annog sefydliadau i sicrhau bod preifatrwydd a diogelu data yn ystyriaeth allweddol ar gam cynnar mewn unrhyw brosiect, a drwy gydol oes y prosiect. Er enghraifft wrth:

  • adeiladu systemau TG newydd ar gyfer storio data personol neu gael gafael arno;
  • datblygu deddfwriaeth, polisïau neu strategaethau sydd â goblygiadau o ran preifatrwydd;
  • cychwyn cynllun rhannu data; neu
  • defnyddio data at ddibenion newydd.