Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraethu a cyhoeddiadau

Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), mae'n rhaid i bob awdurdod cyhoeddus fabwysiadu a chynnal Cynllun Cyhoeddi. Mae'r Ddeddf yn mynnu y bydd pob awdurdod cyhoeddus yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd mewn ffordd ragweithiol.    

Cafodd y Cynllun Cyhoeddi Model a'r Ddogfen Diffinio ar gyfer Cyrff Iechyd yng Nghymru eu cynhyrchu gan y Comisiynydd Gwybodaeth ac maen nhw'n diffinio saith dosbarth cyffredinol o wybodaeth fel y nodir isod:

Ein Cynllun Cyhoeddi

Dewiswch bennawd i ddarganfod mwy am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae disgrifiadau o dan bob pennawd i nodi beth yw cynnwys y Dosbarth hwnnw o'r Cynllun Cyhoeddi:

Dosbarth Un: Pwy ydyn ni a beth ydyn ni'n ei wneud

Cynllun Tair Blynedd 2024-2027, Strwythur y GIG, sefydliadau a phartneriaid allweddol, cyfarfodydd â chwmnïau fferyllol a chyflenwyr meddygol eraill, manylion cyswllt adrannau sy'n delio â'r cyhoedd, rhannu gwybodaeth ac 'Eich Gwybodaeth, Eich Hawliau'. 

Dosbarth Dau: Faint ydyn ni'n ei wario a sut

Rheolau sefydlog a chyfarwyddiadau ariannol, adroddiadau blynyddol a chyfrifon, rhaglen gyfalaf, cynllun dirprwyo, lwfansau a threuliau staff uwch ac aelodau'r Bwrdd, graddfeydd a strwythurau cyflog staff, cyllid, caffael a thendro a chontractau a ddyfarnwyd. 

Dosbarth Tri: Beth ydy ein blaenoriaethau a sut hwyl ydyn ni'n ei chael arni

Cynllun Tair Blynedd 2024-2027, Adroddiadau blynyddol, cynllun busnes blynyddol, datganiadau ansawdd blynyddol, targedau, nodau ac amcanion, perfformiad yn erbyn targedau, datganiadau llywodraethu blynyddol, Caldicott, adroddiadau archwilio, arolygon ac asesiadau effaith diogelu data.

Dosbarth Pedwar: Sut ydyn ni'n gwneud penderfyniadau

Papurau'r Bwrdd, Cofrestr Risgiau Corfforaethol, Safonau Iechyd a Gofal, Fframwaith Perfformiad ac Atebolrwydd, strategaeth cynnwys cleifion a'r cyhoedd, ymgynghoriadau cyhoeddus, canllawiau cyfathrebu mewnol a Safonau'r Gymraeg. 

Dosbarth Pump: Ein polisïau a'n gweithdrefnau

Iechyd a diogelwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth, Cynllun Iaith Gymraeg, rheolau sefydlog a chyfarwyddiadau ariannol, diogelu data, rheoli ystadau, taliadau am wybodaeth.

Dosbarth Chwech: Rhestri a chofrestri

Gwybodaeth y mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni ei chadw, cofrestr asedau a chofrestr buddiannau. 

Dosbarth Saith: Y gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig

Gwasanaethau clinigol ac anghlinigol, ffioedd y gallwn eu hadennill o wasanaethau, sut i wneud cwyn a chyfathrebu corfforaethol a datganiadau i'r cyfryngau.