Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiadau

Yma fe welwch wybodaeth am ddigwyddiadau cyhoeddus a drefnir gan y Bwrdd Iechyd:

Cynhadledd: Gwasanaethau iechyd meddwl ystyriol o gleifion, sut bethau ydyn nhw?

Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar bynciau sy’n ymwneud â gwella gwasanaethau i’r rhai ag anhwylderau iechyd meddwl. Cafodd y pynciau eu dewis yn dilyn argymhellion gan gleifion a grwpiau gofalwyr. Maent yn ystyried sut y gellir cefnogi ein cleifion drwy gydweithio â gweithgareddau yn y gymuned a gwasanaethau gofal iechyd.

Mae gennym amrywiaeth o siaradwyr arbenigol lleol a rhyngwladol sy’n dod o wasanaethau iechyd a grwpiau cymunedol.

Mae hwn yn ddigwyddiad hybrid. Gallwch fynychu yn bersonol neu ar-lein.

Dyddiadau:

  • Diwrnod 1: 10yb, Dydd Mawrth, 14 Mai
  • Diwrnod 2: 10yb, Dydd Mercher, 15 Mai

Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich tocyn - - https://patientfriendlymh.co.uk/


Sgyrsiau Iechyd Lleol 2024

Byddwn ni ar grwydr yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, gan siarad â phobl yn ein cymunedau lleol am yr hyn sy'n bwysig iddynt.

  • Caergybi ac Ynys Môn: Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn, Caergybi, 11am-1pm on Friday 3 May

Yn ogystal â diweddariadau ar faterion lleol a materion yn ymwneud â'r bwrdd iechyd cyfan, bydd hen ddigon o gyfleoedd i siarad ag aelodau'r Bwrdd Iechyd, derbyn gwiriad pwysedd gwaed, sgwrsio â thimau sy'n cynnal gwasanaethau dementia, gwasanaethau strôc, gwasanaethau cardioleg a llawer mwy.

Rydym yn eich annog chi i ddod i'r digwyddiad. Sesiynau galw heibio yw'r rhain ac nid oes angen trefnu apwyntiad. Rydym yn bwriadu cynnal llawer mwy o'r sesiynau hyn trwy gydol y flwyddyn ar draws Gogledd Cymru gyfan a byddwn yn diweddaru'r dudalen hon gyda'r dyddiadau a'r lleoliadau.


Mesurau Arbennig: Ein Cynnydd Flwyddyn yn Ddiweddarach, sesiwn ar-lein

Dyddiad y digwyddiad: Dydd Llun, 4 Mawrth 2024
Amser y digwyddiad: 6.30pm - 7.30pm
Cofrestrwch yma: Mae cofrestru bellach ar gau

Byddwn yn rhoi diweddariad ynghylch ein cynnydd ers cael ein rhoi o dan Fesurau Arbennig ym mis Chwefror 2023, yn ogystal â rhoi trosolwg o’r heriau yr ydym yn eu hwynebu o hyd.

Bydd y sesiwn ar-lein hon yn cael ei chyflwyno dros Zoom a bydd dolen yn cael ei rhoi unwaith y bydd y ffurflen hon yn cael ei chwblhau (arbedwch y ddolen) a hefyd drwy nodyn atgoffa e-bost ar fore’r cyfarfod. Mae cofrestru ar gyfer y sesiwn hon yn ein helpu ni i reoli’r rhestr mynychwyr er mwyn sicrhau ein bod yn aros o fewn cyfyngiadau niferoedd y mynychwyr ar unrhyw un adeg ar gyfer cyfarfod Zoom. Bydd y flaenoriaeth ar gyfer lle yn y sesiwn hon yn cael ei rhoi i’r rhai sydd wedi rhoi o’u hamser i gofrestru.

Bydd y wybodaeth yr ydym yn ei chasglu yn y ffurflen hon ond yn cael ei defnyddio at ddibenion cynhyrchu rhestr mynychwyr ar gyfer y sesiwn hon yn ogystal â rhoi gwybodaeth i fynychwyr am y sesiwn benodol hon. Unwaith y bydd y sesiwn hon wedi dod i ben, bydd y wybodaeth a gasglir yn y ffurflen hon yn cael ei dileu a ni fydd yn cael ei defnyddio eto.