Neidio i'r prif gynnwy

Sganio DXA

Techneg pelydr-X arbenigol yw Amsugniad Pelydr-X Ynni Deuol (DXA) sy'n caniatáu mesur Dwysedd Mwynol Esgyrn (BMD) yn gywir. Mae'r mesuriad hwn yn galluogi'r radiograffydd i asesu cryfder eich esgyrn a'ch risg o dorri asgwrn. Cymerir y mesuriadau o un rhan o'r glun a'r asgwrn cefn meingefnol.

Mae'r mesuriad BMD yn asesu risg claf o gael Osteoporosis neu Osteopenia, ac yn cadarnhau a fyddai'r claf yn elwa o driniaeth.

Tua 10-15 munud yw hyd sgan DXA. Ar ôl i chi gyrraedd yr apwyntiad, byddwn yn gofyn i chi gwblhau holiadur ynglŷn â’ch meddyginiaeth, unrhyw hanes am dorri esgyrn a'ch hanes meddygol.

Bydd canlyniadau'r sgan yn cael eu hanfon at eich Meddyg Teulu neu'r Meddyg Ymgynghorol a'ch cyfeiriodd chi.