Mae ein llinellau ffôn yn hynod o brysur ac rydym yn cydnabod eich bod yn amyneddgar gyda’r broblem hon.
Helpwch ni i’ch helpu chi drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 dim ond os ydych wedi cael gwahoddiad i wneud hynny neu os ydych yn y grwpiau blaenoriaeth 1-9 (50 oed neu’n hŷn neu’n hynod o fregus yn glinigol) ac nad ydych wedi cael apwyntiad. Ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar: 03000 840004.
Ar hyn o bryd, rydym yn cysylltu â phobl rhwng 40-49 oed yn uniongyrchol ag apwyntiad i gael eu dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19.
Cwblhewch y ffurflen os ydych:
Rydym wedi cysylltu â phawb yng Ngrŵp 1 i 9 yn eu gwahodd i drefnu apwyntiad am eu brechlyn COVID-19, ond rydym yn ymwybodol bod rhai ohonoch o bosibl heb gael eich gwahoddiad, efallai oherwydd bod y manylion cyswllt sydd gennym ar eich cyfer yn anghywir.
Mae cwblhau'r ffurflen ganlynol yn ein galluogi i ddiweddaru ein cofnodion, yna byddwn yn anfon llythyr apwyntiad.
Mae gwybodaeth am bwy ydym yn brechu, sut i gofrestru fel gofalwyr di dâl, pryd i gysylltu â'r ganolfan archebu a mwy, ar dudalen Cwestiynau Cyffredin Brechu COVID-19:
Strategaeth Frechu Gogledd Cymru, diweddarwyd Ionawr 2021