Mae ein rhaglen brechiadau atgyfnerthu wedi hen gychwyn ac mae ein timau yn paratoi i roi’r dos cyntaf o’r brechlyn i bobl ifanc iach 12-15 oed yr wythnos nesaf, felly rydym ni’n defnyddio dogfen briffio’r wythnos hon i ddarparu trosolwg o bwy sy’n gymwys i gael y brechlyn cyntaf, yr ail frechlyn, a’r brechlyn atgyfnerthu, a sut gallant gael eu pigiad(au).
Gall y sawl sy’n 16+ mlwydd oed sy’n dymuno cael dos cyntaf a’r sawl sy’n o leiaf 17 mlwydd 9 mis sydd i fod i gael ail ddos (wyth wythnos ar ôl y cyntaf) ymweld ag unrhyw un o’n clinigau galw heibio heb apwyntiad. Fel arall, cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004 i drefnu apwyntiad. Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8yb – 7yh, a dydd Sadwrn a dydd Sul, 9yb – 2yp.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch derbyn brechlyn COVID-19, ewch i’ch apwyntiad serch hynny fel gallwn ni dreulio amser yn trafod y rhain gyda chi cyn i chi benderfynu cael brechiad neu beidio. Fel arall, e-bostiwch ein cynghorwyr Clinigol Brechiadau COVID-19 yn BCU.CovidVaccineClinicalAdvisor@wales.nhs.uk.
Disgwylir cyngor yn nes ymlaen gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) ynghylch cynnig ail ddos neu beidio i’r sawl sydd rhwng 12 mlwydd oed ac 17 mlwydd 9 mis oed.
Rydym ni wedi cychwyn anfon llythyrau at y sawl sy’n perthyn i’r grŵp oedran hwn, i’w gwahodd hwy a’u rhiant/gwarcheidwad i fynd i ganolfan brechu o Ddydd Llun 4 Hydref ymlaen. Ni fydd pobl ifanc sy’n perthyn i’r grŵp oedran hwn yn gallu mynd i’n clinigau galw heibio.
Nid oes angen iddynt hwy na’u rhieni/gwarcheidwaid gysylltu â ni i drefnu apwyntiad oherwydd byddant yn cael gwahoddiad trwy lythyr pan ddaw eu tro i gael brechiad.
Bydd angen i riant neu warcheidwad ddarparu cydsyniad ar ran y person ifanc a mynd gyda hwy pan fyddant yn cael eu brechiad.
Ar yr adeg hon, nid ydym ni’n bwriadu brechu’r grŵp oedran hwn mewn clinigau mewn ysgolion, ond byddwn yn parhau i adolygu’r penderfyniad hwn.
Mae’n bwysig iawn i bobl ifanc a’u rhieni/gwarcheidwaid wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynghylch brechu, ar sail gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar wefannau’r BBC, Public Health England, a Chymdeithas Imiwnoleg Prydain.
I gael atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch brechu pobl ifanc 12-15 mlwydd oed, ewch i'n gwefan.
Disgwylir cyngor yn ddiweddarach gan y JCVI ynghylch cynnig ail ddos neu beidio i’r grŵp oedran hwn.
Rydym ni’n parhau i wahodd plant cymwys a’u rhiant/gwarcheidwad i fynd i glinigau brechu penodedig trwy anfon llythyr a ffonio.
Mae’r JCVI yn argymell y dylai’r canlynol gael cynnig trydydd dos o frechlyn atgyfnerthu COVID-19, os oes o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers eu hail ddos:
Rydym ni wedi cychwyn anfon llythyrau gwahoddiad a negeseuon testun i atgoffa at y sawl sy’n gymwys. Os ydych chi’n gymwys, cofiwch na fyddwch chi’n gallu mynd i’n clinigau galw heibio heb apwyntiad, ac nid oes angen i chi gysylltu â ni i drefnu apwyntiad. Fe gewch chi wahoddiad trwy lythyr pan ddaw eich tro chi.
Ni fydd hi’n ymarfer safonol i roi brechlynnau atgyfnerthu’r Ffliw a COVID-19 ar yr un pryd, ond efallai y byddwn ni’n gallu gwneud hyn mewn nifer fechan o achosion lle bydd yr amseriad a’r trefniadau ymarferol yn caniatáu i ni wneud hynny.
Wrth i ni gychwyn gwahodd rhai o’n dinasyddion hynach a mwy agored i niwed i gael brechlyn atgyfnerthu, rydym ni’n dymuno atgoffa pobl i wylio rhag sgamiau brechiadau COVID-19.
Mae brechlyn COVID-19 ar gael trwy gyfrwng y GIG yn unig ac fe’i cynigir yn rhad ac am ddim. Ni wnawn ni fyth ofyn am fanylion eich cyfrif banc, eich cyfrineiriau neu eich rhifau PIN er mwyn trefnu i chi gael brechiad.
Os byddwch chi’n derbyn e-bost, neges testun neu alwad ffôn yn honni bod oddi wrth y GIG a gofynnir i chi ddarparu manylion ariannol, sgâm fydd hynny.
Os bydd gennych chi unrhyw amheuon am apwyntiad brechu rydych chi wedi’i dderbyn, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004.
Cyn i chi drefnu i deithio dramor, gwiriwch ofynion brechu’r wlad rydych chi’n bwriadu ymweld â hi neu’r gwledydd rydych chi’n bwriadu ymweld â hwy. Ni allwn ni ond rhoi nifer y dosys o’r brechlyn a argymhellir gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).
Ddoe, fe wnaethom ni gynnal ein digwyddiad recriwtio diweddaraf, a fynychwyd gan dros 130 o bobl. Rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu ymgeiswyr addas i ddod yn rhan o’n timau brechu COVID-19 yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd manylion rhagor o ddigwyddiadau recriwtio yn cael eu rhannu ar ein gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol.