Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

21/07/21

Gan Gill Harris – Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth

Er gwaetha’r tywydd poeth, mae ein clinigau brechu yn parhau i groesawu cannoedd o bobl drwy eu drysau bob dydd.

Mae naw deg un y cant o oedolion cymwys yng Ngogledd Cymru nawr wedi cael dos cyntaf, tra mae bron i saith deg pump y cant wedi eu brechu’n llawn â’r ddau ddos.

Mae wedi cymryd ymdrech tîm mawr i gyrraedd y pwynt hwn, ac rydym yn ddiolchgar iawn am ymroddiad a gwaith caled ein staff brechu, contractwyr gofal cychwynnol, gwirfoddolwyr a staff mewn sefydliadau partner.

Mae’r wythnos hon yn nodi cychwyn gwyliau’r haf a chyda’r newyddion mai Gogledd Cymru yw’r cyrchfan gwyliau mwyaf poblogaidd yn y DU, rydym yn disgwyl i’r nifer o ymwelwyr â’r ardal fod y tu hwnt i unrhyw beth a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol.

Mae hyn eisoes yn rhoi pwysau ychwanegol sylweddol ar ein gwasanaethau ac mae’n debygol iawn o arwain at gynnydd mewn achosion o’r amrywiolyn Delta.

Y ffordd orau o amddiffyn eich hunain, eich anwyliaid, gwasanaethau’r GIG a busnesau lleol yw cael y ddau ddos o’r brechlyn a pharhau i ddilyn y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf.

 

Brechiad COVID-19 ar gyfer plant a phobl ifanc

Yr wythnos hon mae’r Cydbwyllgor ar Frechiadau ac Imiwneiddiadau (JCVI) wedi hysbysu bod plant sydd mewn perygl cynyddol o fod yn ddifrifol wael gyda COVID-19 yn cael cynnig y brechlyn Pfizer-BioNTech.  Mae hynny’n cynnwys plant 12 i 15 oed gydag anableddauniwro difrifol, Syndrom Down, gwrth imiwnedd ac anableddau dysgu lluosog neu ddifrifol.

Mae’r JCVI hefyd yn argymell y dylai plant a phobl ifanc 12 i 17 oed sy’n byw gydag unigolyn â gwrth imiwnedd gael cynnig y brechlyn.

Ar hyn o bryd rydym yn cynllunio sut y gallwn roi’r brechlyn i’r bobl iau hyn yn y ffordd fwyaf effeithlon.  Bydd gwybodaeth bellach ar ein cynlluniau yn cael eu cynnwys yn niweddariad brechiadau’r wythnos nesaf. Mae gennym nifer o glinigau brechu rhag COVID-19 ar agor ar draws Gogledd Cymru lle gallwch alw i mewn heb drefnu apwyntiad

 

Mae cael eich dos cyntaf neu ail ddos nawr yn haws nag erioed.

Mae cael eich dos cyntaf neu ail ddos o’r brechlyn (ar ôl chwe wythnos) ar ddyddiad, amser ac mewn lleoliad cyfleus nawr yn haws nag erioed gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu apwyntiad ar lein.

Os na allwch gael mynediad at y rhyngrwyd i drefnu ar-lein, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004. Gall y llinellau fod yn brysur iawn, felly byddwch yn amyneddgar.

Mae gennym nifer o glinigau galw heibio brechu rhag COVID-19 ar agor ar draws Gogledd Cymru lle gallwch alw i mewn heb drefnu apwyntiad. Mae sesiynau galw heibio yn amodol ar argaeledd y brechiad a faint o bobl sy’n troi i fyny ar unrhyw ddiwrnod. 

Rydym hefyd yn cynnal clinigau brechu ‘pop up’ symudol yn targedu ardaloedd prysur.  Bydd y rhain yn cynyddu mewn amlder dros yr wythnosau sydd i ddod, diolch i gaffaeliad tri cherbyd clinig symudol.  

Byddwn bob amser yn ceisio hyrwyddo’r rhain yn eang ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy’r wasg leol.