Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Penrhos Stanley

Cyfeiriad: Caergybi, Ynys Môn, LL65 2QA
Rhif Ffôn: 0300 085 0022

Gwasanaethau Ysbyty

  • Gwelyau cleifion mewnol
  • Yr arbenigeddau cleifion mewnol ydy Gwelyau meddygol Meddygon Teulu a Gofal i'r Henoed. Clinigau cymunedol a chleifion allanol gyda Meddygon Ymgynghorol ac mae gwasanaethau deintyddol a phelydr-x ar gael
  • Deintyddiol
  • Ffisiotherapi cleifion allanol a mewnol
  • Therapi Galwedigaethol
  • Therapi Iaith a Lleferydd
  • Gwasanaeth Trin Traed
  • Mae gan y Tîm Datblygiad Plant ystafelloedd ymgynghori yn yr ysbyty hefyd
  • Pelydr X

Uned Mân Anafiadau (MIU)

Mae gwybodaeth am yr Uned Mân Anafiadau ar gael yma.

Cyfleusterau

Mae siop fach a phwynt gwybodaeth yn yr ysbyty sy'n cael eu rhedeg gan grŵp arbennig o wirfoddolwyr. 

Ymweliadau ag Ysbytai

Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma. 

Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.

Sut i gyrraedd

Mewn car:  Gadewch yr A55 ar gyffordd 3. Yn y gylchfan, cymerwch y 4edd allanfa am yr A5. Mae’r ysbyty wedi’i leoli ar yr A5, y tu allan i ganol tref Caergybi. Mae digonedd o leoedd parcio am ddim yn yr ysbyty ac mae lleoedd parcio i bobl anabl yn agos at y fynedfa. Am fwy o gyfarwyddiadau, ewch i: streetmap.co.uk

Ar drên: Mae'r ysbyty lai na 1 milltir o Orsaf Caergybi. Am wybodaeth ar deithio ar y rheilffordd, ewch i: Traveline Cymru

Ar fws: Mae gwasanaethau rheolaidd bob dydd. Am fwy o wybodaeth ewch i: Traveline Cymru