Rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar wella ein diwylliant, y ffordd rydyn ni’n dynodi, yn datblygu ac yn denu arweinwyr ac mae’n rhaid i ni wella’r ffordd rydyn ni’n ymgysylltu gyda'n cymunedau, ein staff a'n rhanddeiliaid a'u cynnwys.
Fel Bwrdd rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu’n uniongyrchol â’n staff, ein cymunedau a’n partneriaid sydd i gyd â rhan bwysig i’w chwarae yn ein taith o wella.
Rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni weithio'n agos gyda'n staff, ein cymunedau a'n partneriaid i wneud pethau'n iawn. Mae hyn yn golygu nid yn unig ymgysylltu cynnar, ond parhaus, lle rydym yn gwrando ar brofiadau ac arbenigedd pobl eraill ac yn dysgu oddi wrthynt.
Rydym wedi ymrwymo i gynnal arweinyddiaeth gref, weladwy yn fewnol ac yn allanol, gan gynnwys gyda'r cyfryngau a'r cyhoedd i ailadeiladu ymddiriedaeth yn y ffordd yr ydym yn rhedeg ein gwasanaethau.
Cynnydd a wnaed
- Mae Fframwaith Datblygu Arweinyddiaeth yn cael ei roi ar waith i helpu i ddenu arweinwyr a'u datblygu. Mae gweithdai a sesiynau’n cael eu cynnal gydag arbenigwyr arweinyddiaeth a newid diwylliant, fel yr academydd blaenllaw Michael West a chyn Brif Weithredwr yswiriant Admiral, Henry Engelhart.
- Mae'r Bwrdd wedi dechrau cyfarfod â chymunedau ar draws Gogledd Cymru i roi cyfle iddynt ofyn cwestiynau a darganfod mwy am y cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae'r dull hwn yn cael ei ddefnyddio i gynyddu amlygrwydd a chryfhau ymgysylltiad â chymunedau ar draws Gogledd Cymru. Cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol mewn canolfan gymunedol yn Llandudno ac rydym wedi cael dwy sgwrs gyda chymunedau hyd yn hyn eleni lle mae pobl wedi gallu siarad â staff rheng flaen i ddysgu am eu gwaith o ddydd i ddydd a chwrdd ag aelodau’r Bwrdd a oedd yn gallu i roi cipolwg ar gynlluniau’r bwrdd iechyd ar gyfer y dyfodol. Rydym yn cynllunio mwy.
- Mae Adroddiad Profiad y Dinesydd newydd wedi'i gyflwyno i hysbysu aelodau'r Bwrdd am y themâu allweddol sydd o ddiddordeb a phryder i'r cyhoedd.
Cynlluniau at y Dyfodol
- Bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i ddatblygu’r ffordd y mae’n ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid, o ran rhannu gwybodaeth mewn ffordd agored a gonest a hefyd i wella’r cyfleoedd sydd gan bobl i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r Bwrdd, staff y GIG a gwasanaethau.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: blwyddyn yn ddiweddarach, lawrlwytho digidol