Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau i oedolion ifanc a myfyrwyr

ffliarallMae oedolion ifanc sy'n dechrau gweithio am y tro cyntaf a myfyrwyr sy'n dechrau prifysgol neu goleg yn cyfarfod ac yn cymysgu â llawer o bobl newydd. Mae hyn yn gyfle i heintiau ledaenu ymhlith pobl o wahanol gymunedau ac ar draws ardal eang.

Rydym yn argymell bod pob oedolyn ifanc, gan gynnwys myfyrwyr newydd, yn sicrhau eu bod yn cael y brechiadau diweddaraf cyn iddynt ddechrau gweithio, neu ddechrau mewn prifysgol neu goleg.

 

Pa frechlynnau ddylwn i eu cael?

Dylai oedolion ifanc wneud yn siŵr eu bod wedi cael:

  • Dwy ddos o'r brechlyn MMR    
    Fel arfer rhoddir brechlynnau MMR i blant pan fyddant yn 12 mis oed ac yn dair blwydd a phedwar mis oed.
     
  • Dwy ddos o'r brechlyn HPV
    Fel arfer rhoddir brechiad HPV i fechgyn a merched ym Mlynyddoedd 8 a 9 yn yr ysgol.
    Gall oedolion ifanc hyd at 25 oed a fethodd eu brechiad HPV yn yr ysgol, gael y brechiad yn eu meddygfa.
     
  • Un dos o'r brechlyn MenACWY
    Fel arfer, rhoddir brechlyn MenACWY i fyfyrwyr ym Mlwyddyn 9 yn yr ysgol.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi methu brechiad, cysylltwch â'ch meddygfa am ragor o wybodaeth a chyngor.

 

Brechlynnau ffliw a COVID-19

Os oes gennych gyflwr iechyd sy'n bodoli eisoes neu gyflwr iechyd hirdymor, mae'n bosibl eich bod yn gymwys i gael brechlyn ffliw tymhorol y GIG am ddim. Mae’r brechlyn hwn yn helpu i'ch amddiffyn chi rhag y ffliw a'r heintiau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r ffliw. Mae hefyd yn amddiffyn aelodau eraill o’r teulu a’r gymuned ehangach sy’n agored i niwed.

Efallai y byddwch chi hefyd yn gymwys i gael brechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn gwahoddiadau i gael y brechlynnau hyn er mwyn gwella eich amddiffyniad rhag salwch difrifol.

 

Brechiadau ar gyfer gwaith

Mae llawer o weithleoedd yn gofyn i weithwyr wneud yn siŵr eu bod wedi cael y brechiadau arferol i leihau'r risg o salwch neu afiechyd.

Mae rhai cyflogwyr yn gofyn i weithwyr gael brechiadau ychwanegol er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad. Efallai y bydd angen rhagor o frechiadau ar gyfer rhai swyddi risg uwch.

Mae cyngor ar y brechiadau a argymhellir ar gyfer eich swydd ar gael gan eich cyflogwr neu’ch adran iechyd galwedigaethol.

 

Brechiadau eraill

Mae’n bosibl y bydd angen brechiadau ychwanegol neu ddosau ychwanegol o rai brechiadau, ar rai unigolion sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes neu sy’n agored i risg uwch o salwch, i’w hamddiffyn rhag mynd yn sâl.

Mae arweiniad a chymorth fesul achos i unigolion â chyflyrau sy'n bodoli eisoes neu ffactorau risg ychwanegol ar gael gan eich meddygfa neu dîm arbenigol.