Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol

Mae'r gwasanaeth deintyddol Cyffredinol yn darparu deintyddiaeth GIG stryd fawr arferol. Nid yw apwyntiadau archwilio a thriniaeth yn seiliedig ar amser a chaiff cleifion eu gweld yn seiliedig ar gapasiti. 

Mae ymarferwyr deintyddol cyffredinol yn darparu gofal cyffredinol, triniaeth a chyngor hunanofal i gadw eich ceg, dannedd a'ch deintgig yn iach ac yn rhydd o boen.

Mae pob practis deintyddol yn darparu ystod lawn o ofal sylfaenol Gwasanaethau Deintyddol GIG yn cynnwys mynediad at driniaeth frys yn ystod oriau gwaith arferol.

Bydd eich deintydd yn cynnig opsiynau triniaeth briodol i chi ac yn ei gwneud yn glir pa driniaethau all gael eu cynnig ar y GIG a pha rai sy’n gallu cael eu cynnig ar sail breifat yn unig. Fe roddir hefyd amcan o bris. Gellir canfod gwybodaeth bellach ynghylch costau deintyddol ar cwestiynau ofynnir yn aml ynghylch gwasanaethau deintyddol.

Canfod eich Deintydd GIG lleol

Darperir gwasanaethau deintyddol cyffredinol gan rwydwaith o bractisau deintyddol wedi eu lleoli ar draws Gogledd Cymru. Nid oes bellach unrhyw gyfleuster 'cofrestru claf ' a gall cleifion geisio triniaeth yn unrhyw bractis GIG. Dewch o hyd i ddeintyddfa sy'n gyfleus i chi, pa un a yw’n agos i'ch cartref, neu eich gwaith a ffoniwch nhw i weld a oes unrhyw apwyntiadau ar gael.

Ni fydd gan ddeintyddfeydd y capasiti bob amser i dderbyn cleifion GIG newydd. Efallai y bydd yn rhaid i chi ymuno â rhestr aros neu edrych am ddeintydd gwahanol sy'n derbyn cleifion GIG newydd.

Os na allwch ganfod deintydd yn derbyn cleifion GIG, cysylltwch â GIG 111 Cymru am gyngor pellach.

Apwyntiadau archwilio yn ôl yr arfer

Os ydych wedi arfer cael archwiliadau arferol bob chwe mis, bellach nid yw hyn bob amser yn wir. Gall yr amser rhwng archwiliadau arferol fod yn hwyrach neu yn fyrrach yn dibynnu ar ba mor iach yw eich dannedd a'ch deintgig. Bydd eich deintydd yn trafod hyn gyda chi ac yn penderfynu ar yr amser fydd ei angen hyd nes eich archwiliad nesaf yn seiliedig ar eich asesiad deintyddol.

Dylech gysylltu â'ch deintydd os oes gennych broblem ddeintyddol rhwng apwyntiadau. Bydd eich deintydd yn darparu cyngor a thriniaeth frys os yw’n angenrheidiol.

Gellir canfod gwybodaeth bellach am apwyntiadau deintyddol ar cwestiynau ofynnir yn aml ynghylch gwasanaethau deintyddol.

Rhoi eich triniaeth

Efallai y bydd angen gwahanol aelodau o'r tîm deintyddol, gan gynnwys deintyddion, hylenyddion, therapyddion a nyrsys deintyddol i ddarparu eich triniaeth. Edrychwch yn fanylach ar un o'r canlynol am wybodaeth bellach.