Neidio i'r prif gynnwy

Mewngymorth Ysgolion

Byddwch yn rhan o’r broses gyffrous o gyflwyno ‘Mewngymorth’ ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn recriwtio ymarferwyr dawnus ac ymroddedig o ystod o gefndiroedd (gan gynnwys nyrsio, gwaith cymdeithasol, therapi galwedigaethol, ffisio a gwaith ieuenctid i enwi ond ychydig!) i weithio gydag ysgolion ar draws y rhanbarth, gan ymuno â’n tîm fel Ymarferydd Iechyd Meddwl Addysg CAMHS. 

Mae’r rôl heriol ac amrywiol hon yn rhan o’n prosiect ‘Mewngymorth’ arloesol i ddod â’r GIG ac ysgolion ynghyd. Byddwch yn cyflwyno hyfforddiant ar orbryder, iselder, anhwylderau bwyta, hunan-niwed a hunanladdiad yn ogystal â gweithio ochr yn ochr â phenaethiaid ac uwch arweinwyr i wella polisïau lles iechyd meddwl cymunedol ysgolion.