Neidio i'r prif gynnwy

Gweithgarwch a symud

Pan fyddwn mewn poen, rydym yn aml yn osgoi gweithgareddau neu symudiadau penodol. Yn y tymor hir, gall hyn arwain at ein cyhyrau yn gwanhau a'n cymalau yn mynd yn anystwyth sydd - yn y tymor hir yn cynyddu ein poen. Gallwn osgoi gwneud pethau yr ydym yn eu mwynhau effeithio ar ein hwyliau hefyd. Gallwn hefyd ganfod ein hunain yn y cylch Ffyniant a methiant.

Sut gallwn ni reoli ein gweithgareddau mewn ffordd well?

  • Ymarfer corff ysgafn cyson neu symud o fewn yr hyn sy’n gyfforddus
  • Symud mewn modd rheoledig gan gadw ein cyhyrau mor llac â phosibl
  • Byddwch yn ymwybodol o ddal eich anadl; ceisiwch anadlu tra'n gwneud gweithgaredd
  • Rheolwch eich gweithgaredd, rhannwch y dasg i ddarnau hylaw llai.
  • Cymerwch egwyliau cyson
  • Dewch o hyd i gydbwysedd rhwng gweithgarwch a gorffwys
  • Dros amser, yn araf cynyddwch pa mor anodd yw'r gweithgaredd
  • Ceisiwch wneud gweithgaredd yn bleserus neu'n werth chweil
  • Cynlluniwch weithgaredd, eich diwrnod, eich wythnos
  • Gosodwch gyfyngiadau i chi eich hun ar gyfer gweithgareddau y gwyddoch fydd yn tanio eich poen
  • Gosodwch nodau realistig i chi eich hun