Neidio i'r prif gynnwy

Ein Cyfleusterau

Mae gennym ni dair Uned Endosgopi ar draws Gogledd Cymru sy’n gofalu am oedolion fel allgleifion a chleifion sy’n aros yn yr ysbyty i dderbyn yr ystod prosesau endosgopig. 

Mae meddygon teulu a thimau arbenigol yn atgyfeirio’n uniongyrchol i’r Unedau Endosgopi. Cynhelir Sgrinio Coluddion Cymru ymhob un o’n hunedau hefyd. 

Mae pob Uned ar agor rhwng 8am a 6pm, saith diwrnod yr wythnos.