Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol

Bob blwyddyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn derbyn cyllideb GIG a ddyrennir i ni gan Lywodraeth Cymru i dalu am wasanaethau iechyd ein poblogaeth leol.

Yn ogystal, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau arbenigol a thrydyddol ar ran Bwrdd Iechyd Cymru i leihau dyblygu a sicrhau cysondeb.

Yn anffodus mae’r galw am wasanaethau’r GIG bob amser yn fwy na’r arian sydd ar gael, felly mae’n rhaid i ni flaenoriaethu’r defnydd o arian yn ofalus gan nad yw’n bosibl ariannu pob triniaeth sydd ar gael.

Er bod y mwyafrif helaeth o driniaethau a gwasanaethau sydd eu hangen ar gleifion yn cael eu cynnig fel mater o drefn gan y GIG, efallai y bydd rhai achosion pan fydd penderfyniad wedi'i wneud i beidio â darparu'r driniaeth fel mater o drefn. Gall hyn fod oherwydd mai prin yw’r dystiolaeth o ba mor dda y mae’r driniaeth yn gweithio yn y cleifion hynny neu oherwydd bod y driniaeth yn ddrud iawn ac nad yw’n cynnig gwerth da am arian i’r GIG.

Bydd achosion hefyd lle mae triniaeth yn dal yn newydd iawn ac nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto a ddylid ei chynnig fel mater o drefn ar y GIG yng Nghymru.

Gall eich meddyg teulu neu feddyg ymgynghorol ysbyty ofyn i ni, ar eich rhan, i ariannu triniaeth na fyddem fel arfer yn ei darparu ar eich cyfer ar y GIG yng Nghymru. Mae Polisi GIG Cymru, Gwneud Penderfyniadau ar Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR), yn nodi’n glir sut yr ymdrinnir â’r ceisiadau hyn, a sut y gellir gwneud cais:

Ymyriadau nas Cyflawnir Fel Arfer (INNU)

Mae gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau a blaenoriaethu cyllid yn rhan hanfodol o'n gwaith. Yn hanesyddol, mae'r GIG wedi nodi triniaethau y bernir nad oes iddynt unrhyw fudd neu fuddiant cyfyngedig. Ystyrir y rhain fel mater o drefn yn flaenoriaeth isel ac ni chânt eu cyflawni fel arfer.

Gellir dod o hyd i restr o'r triniaethau hyn yn Atodiad 1 o'r Polisi Ymyriadau Nas Cyflawnir Fel Arfer (INNU) (MD17).

Mae eithriadau yn berthnasol. Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn cyllid ar gyfer triniaethau sy’n ymddangos ar y rhestr os:

  • Rydych yn bodloni meini prawf clinigol penodol
  • Mae tystiolaeth bod eich amgylchiadau clinigol yn golygu eich bod yn bodloni'r meini prawf a amlinellir yn y polisi IPFR

Cyswllt

Yr unigolyn gorau i siarad ag ef am eich gofal iechyd ac a ddylid gwneud IPFR neu gais am driniaeth yn yr EEA yw eich Meddyg Teulu neu’ch Meddyg Ymgynghorol Ysbyty.

Os hoffech drafod unrhyw un o’r polisïau a nodir uchod, cysylltwch â’r Tîm IPFR:

E-bost: BCU.IPFR@wales.nhs.uk
Ffôn: 01745 448788 est (7930)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr,
Tîm IPFR - Swyddfa'r Cyfarwyddwr Meddygol,
Bloc 22, Ysbyty Glan Clwyd,
Lôn Sarn, Bodelwyddan,
LL18 5UJ

Sylwch na fyddant yn gallu trafod eich gofal iechyd oherwydd nad ydynt wedi'u hyfforddi'n glinigol ond byddant yn gallu siarad â chi am sut y gellir gwneud ac ystyried cais am driniaeth.

Gwneud Cais am Driniaeth yn Ardal Economaidd Ewrop

Daeth “Gweithdrefn Cymru Gyfan i Gleifion o Gymru sy’n cael Triniaeth yng Ngwledydd Ardal Economaidd Ewrop” i ben am 11pm ar 31ain Rhagfyr 2020.

Mae trefniadau S2 yn parhau fel oeddent yn flaenorol ac eithrio yn achos gwledydd y Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd a’r Swistir.

I gael rhagor o fanylion a chyngor, cysylltwch â’r Tîm Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) trwy e-bostio BCU.IPFR@wales.nhs.uk