Neidio i'r prif gynnwy

FIT Dragons

Ar gyfer oedolion â BMI dros 28kg/m2

Mae FIT Dragons yn rhaglen aml-gydran 12 wythnos am ddim a ddarperir gan glwb pêl-droed Wrecsam a gefnogir gan gyllid gan Lywodraeth Cymru , ar gyfer oedolion sy'n edrych i golli pwysau, bod yn fwy heini a byw bywyd mwy egnïol.

Mae clwb pêl-droed Wrecsam yn cynnig sesiynau FIT Dragons yn Wrecsam ac ym Mangor. 

Meini prawf cymhwyster ar gyfer FIT Dragons:

  • Y sawl sydd rhwng 35 a 65 oed
  • Mynegai Màs y Corff (BMI) o 28+
  • Mesur am y canol o dros 38 modfedd (gwryw)/ 31 modfedd (benyw)

Mae’r rhaglen hon yn helpu pobl i gyflawni gwelliannau hirdymor sylweddol o ran eu pwysau, gweithgaredd corfforol, deiet, a lles seicolegol gyda chyfranogwyr ar gyfartaledd yn colli dros 5% o bwysau eu corff yn ystod y cwrs 12 wythnos. ​

Ewch i wefan FIT FANS i wneud cais i gymryd rhan yn y rhaglen hon neu e-bostiwch Healthandwellbeing@wrexhamafc.co.uk